Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 2:8-17 beibl.net 2015 (BNET)

8. “Dydy hi ddim yn barod i gydnabod mai fi sy'n rhoi'r ŷd a'r sudd grawnwin a'r olew olewydd iddi. A fi wnaeth roi'r holl arian a'r aur iddi hefyd – ond aeth ei phobl a rhoi'r cwbl i Baal!

9. Felly, dw i'n mynd i gymryd yr ŷd yn ôl,a'r cynhaeaf grawnwin hefyd.Dw i'n mynd i gymryd yn ôl y gwlân a'r llinoeddwn i wedi ei roi iddi i'w gwisgo.

10. Yn fuan iawn, dw i'n mynd i wneud iddisefyll yn noethlymun o flaen ei chariadon.Fydd neb yn gallu ei helpu hi!

11. Bydd ei holl bartïo ar ben:ei gwyliau crefyddol, ei dathliadau misol a'i Sabothau wythnosol –pob un parti!

12. Bydda i'n difetha ei gwinllannoedd a'i choed ffigys –roedd hi'n honni mai tâl gan ei chariadon oedd y cwbl.Bydda i'n troi'r cwbl yn ddrysni llawn chwyn wedi tyfu'n wyllt;dim ond anifeiliaid gwylltion fydd yn bwyta eu ffrwyth.

13. Bydda i'n ei chosbi am bob diwrnod y buodd hi'nllosgi arogldarth i ddelwau o Baal.Roedd hi'n gwisgo'i chlustdlysau a'i gemwaithi fynd ar ôl ei chariadon, ond yn fy anghofio i!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

14. “Felly, dw i'n mynd i'w denu hi yn ôl ata i.Dw i'n mynd i'w harwain hi yn ôl i'r anialwcha siarad yn rhamantus gyda hi eto.

15. Wedyn, dw i'n mynd i roi ei gwinllannoedd iddi,a troi Dyffryn y Drychineb yn Giât GobaithBydd hi'n canu fel pan oedd hi'n ifanc,pan ddaeth hi allan o wlad yr Aifft.

16. Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“byddi'n galw fi, ‛fy ngŵr‛;fyddi di byth eto'n fy ngalw i, ‛fy meistr‛.

17. Bydda i'n gwneud i ti anghofio enwau'r delwau o Baal;fyddi di ddim yn eu defnyddio byth eto.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 2