Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 2:21-23 beibl.net 2015 (BNET)

21. Bryd hynny, bydda i'n ymateb i ti'n frwd,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Bydda i'n rhoi cymylau i'r awyr, a bydd yr awyr yn rhoi glaw i'r tir.

22. Bydd y tir yn rhoi dŵr i'r ŷd, y grawnwin a'r olewydd.A bydd ffrwyth y tir ar gael i Jesreel.

23. Bydda i'n ei phlannu i mi fy hun yn y tir.Bydd ‛heb drugaredd‛ yn cael profi trugaredd.Bydda i'n dweud wrth ‛nid fy mhobl‛, ‛dych chi'n bobl i mi‛.A byddan nhw'n ateb, ‘Ti ydy'n Duw ni!’.”

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 2