Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 2:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Byddi'n galw dy frawd yn Ammi (sef ‛fy mhobl‛), a dy chwaer yn Rwhama (sef ‛trugaredd‛)!

2. Plediwch yn daer gyda'ch mam(Dydy hi ddim yn wraig i mi,a dw i ddim yn ŵr iddi hi.)Plediwch arni i stopio peintio ei hwyneb fel putain,a dangos ei bronnau i bawb.

3. Neu bydda i'n rhwygo ei dillad oddi arni –bydd hi'n hollol noeth, fel ar ddiwrnod ei geni.Bydda i'n troi'r wlad yn anialwch.Bydd fel tir sych;a bydd hi'n marw o syched.

4. Fydda i'n dangos dim trugaredd at ei phlant,am mai plant siawns ydyn nhw, am iddi buteinio.

5. Hwren anffyddlon ydy eu mam nhw;mae hi wedi ymddwyn yn warthus.Roedd hi'n dweud:‘Dw i'n mynd at fy nghariadon.Maen nhw'n rhoi bwyd a dŵr i mi,gwlân, llin, olew, a diodydd.’

6. Felly, dw i am gau ei ffordd gyda draina chodi wal i'w rhwystro,fel ei bod hi'n colli ei ffordd.

7. Wedyn, pan fydd hi'n rhedeg ar ôl ei chariadon,bydd hi'n methu eu cyrraedd nhw.Bydd hi'n chwilio, ond yn methu ffeindio nhw.Bydd hi'n dweud wedyn,‘Dw i am fynd yn ôl at fy ngŵr.Roedd pethau lot gwell arna i bryd hynny.’

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 2