Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 13:10-16 beibl.net 2015 (BNET)

10. Ble mae dy frenin,iddo fe dy achub di?Ble mae'r arweinwyr yn dy drefi?Ti ofynnodd, ‘Rho frenin a swyddogion i mi’.

11. Wel, rhois frenin i ti am fy mod yn ddig,a dw i wedi ei gipio i ffwrdd am fy mod yn fwy dig fyth!

12. Mae'r dyfarniad ar Effraim wedi ei gofnodi,a'i gosb wedi ei gadw'n saff iddo.

13. Bydd yn dod yn sydyn, fel poenau ar wraig sy'n cael babi;mae'r amser wedi dod, ac mae'r plentyn dwlyn gwrthod dod allan o'r groth, a byw.

14. Ydw i'n mynd i'w hachub nhw o fyd y meirw?Ydw i'n mynd i'w rhyddhau o afael marwolaeth?O farwolaeth! Ble mae dy blâu di?O fedd! Ble mae dy ddinistr di?Fydda i'n dangos dim trugaredd!”

15. Falle ei fod yn llwyddo fel brwyn mewn cors,ond bydd yr ARGLWYDD yn dod â gwynt poeth y dwyraini fyny o gyfeiriad yr anialwch.Bydd y dŵr yn sychu, a'r ffynhonnau'n diflannu,a'r bwydydd yn y stordai yn cael eu difetha.

16. Bydd Samaria yn cael ei galw i gyfriam wrthryfela yn erbyn ei Duw.Bydd y bobl yn cael eu lladd yn y rhyfel,plant bach yn cael eu curo i farwolaeth,a'r gwragedd beichiog yn cael eu rhwygo'n agored.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 13