Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 13:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd llwyth Effraim yn siaradroedd pawb yn crynu –roedd pawb yn ei barchu yn Israel.Ond buont ar fai yn addoli Baal,a dyna oedd eu diwedd.

2. Ac maen nhw'n dal i bechu!Maen nhw wedi gwneud delwau o fetel tawdd;eilunod cywrain wedi eu gwneud o arian –ond dim ond gwaith llaw crefftwyr ydy'r cwbl!Mae yna ddywediad amdanyn nhw:“Mae'r bobl sy'n aberthuyn cusanu teirw!”

3. Byddan nhw wedi mynd fel tarth y bore,neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar;fel us yn cael ei chwythu o'r llawr dyrnu,neu fwg sy'n dianc drwy ffenest.

4. “Ond fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw,ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft.Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi –Fi ydy'r unig un sy'n achub!

5. Fi wnaeth fwydo'ch pobl yn yr anialwch,mewn tir sych, diffaith.

6. Ond wedi eu bwydo, roedden nhw'n fodlon –mor fodlon nes iddyn nhw droi'n falch,ac yna fy anghofio i!

7. Felly bydda i'n rhuthro arnyn nhw fel llew,ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 13