Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 11:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd Israel yn blentynroeddwn yn ei garu,a gelwais fy mab allan o'r Aifft.

2. Ond po fwya roeddwn i'n galw,pellaf roedden nhw'n mynd.Roedden nhw'n aberthu i ddelwau o Baal,a llosgi arogldarth i eilunod.

3. Fi ddysgodd Effraim i gerdded;a'i arwain gerfydd ei law.Ond wnaeth ei bobl ddim cydnabodmai fi ofalodd amdanynt.

4. Fi wnaeth eu harwain gyda thennyn lledr –tennyn cariad.Fi gododd yr iau oddi ar eu gwddf,a fi wnaeth blygu i'w bwydo.

5. Byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft!Bydd Asyria'n eu rheoli,am iddyn nhw wrthod troi'n ôl ata i.

6. Bydd cleddyf yn fflachio'n eu trefi.Bydd y gelyn yn malu'r giatiau,a'u lladd er gwaetha'u cynlluniau.

7. Mae fy mhobl yn mynnu troi cefn arna i.Maen nhw'n galw ar Baal,ond fydd e byth yn eu helpu nhw!

8. Sut alla i dy roi heibio, Effraim?Ydw i'n mynd i adael i ti fynd, Israel?Sut alla i dy roi heibio fel Adma?Ydw i'n mynd i dy drin fel Seboïm?Na, dw i wedi newid fy meddwl!Mae tosturi wedi cynnau'n fy nghalon.

9. Alla i ddim gadael llonydd i'm llid losgi.Alla i ddim dinistrio Effraim yn llwyr!Duw ydw i, nid dyn fel chi,yr Un Sanctaidd – dw i ddim am ddod i ddinistrio.”

10. Bydd yr ARGLWYDD yn rhuo fel llew,a byddan nhw'n ei ddilyn eto.Pan fydd e'n rhuo, bydd ei blant yn dodo'r gorllewin yn llawn cyffro.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 11