7. Bydd Samaria'n cael ei dinistrio,a'i brenin yn cael ei gipiofel brigyn yn cael ei gario ar lif afon.
8. Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio –sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu.Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau.Byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd,“Cuddiwch ni!”ac wrth y bryniau,“Syrthiwch arnon ni!”
9. “Israel, ti wedi pechu ers y digwyddiad erchyll yn Gibea. A does dim byd wedi newid! Onid rhyfel oedd canlyniad yr holl ddrwg yn Gibea?
10. A dw i'n barod i gosbi eto. Dw i'n mynd i gasglu'r cenhedloedd i ymosod arnat ti a dy gymryd yn gaeth am y ddau bechod.
11. Roedd Effraim fel heffer wedi ei hyfforddi,ac wrth ei bodd yn sathru'r grawn.Ond dw i'n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf,a gêr i wneud i Effraim aredig.Bydd rhaid i Jwda arediga Jacob lyfnu'r tir ei hun!
12. Heuwch hadau cyfiawnder,a chewch gynhaeaf o gariad gen i.Trin tir eich calon galed –ceisio'r ARGLWYDD nes iddo ddodgyda chawodydd achubiaeth.
13. Ond rwyt wedi plannu drygioni,a medi anghyfiawnder,ac yna bwyta ffrwyth y twyll.Ti wedi dibynnu ar gerbydau rhyfel,a phwyso ar faint dy fyddin.
14. Felly daw sŵn brwydro ar dy bobl,a bydd dy gaerau i gyd yn syrthio.“Bydd fel y frwydr honno pan ddinistriodd y Brenin Shalman Beth-arbel, a'r mamau'n cael eu curo i farwolaeth gyda'u plant.
15. Dyna fydd yn digwydd i ti, Bethel, am wneud cymaint o ddrwg! Pan fydd y diwrnod hwnnw'n gwawrio, bydd brenin Israel wedi mynd am byth.