Hen Destament

Testament Newydd

Haggai 2:9-23 beibl.net 2015 (BNET)

9. ‘Bydd y deml yma yn llawer harddach yn y dyfodol nag oedd hi o'r blaen,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus; ‘a bydda i'n dod â llwyddiant a heddwch i'r lle yma.’ Ydy, mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi dweud.”

10. Ar y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, cafodd y proffwyd Haggai y neges yma gan yr ARGLWYDD:

11. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Gofynnwch i'r offeiriaid am arweiniad o'r Gyfraith:

12. ‘Os ydy rhywun yn cario cig anifail wedi ei aberthu wedi ei lapio yn ei fantell, a'r dilledyn hwnnw wedyn yn cyffwrdd â bara neu stiw, gwin, olew, neu rhyw fwyd arall, fydd e'n gwneud y bwydydd hynny'n gysegredig?’” Ateb yr offeiriaid oedd, “Na fydd.”

13. A dyma Haggai yn gofyn wedyn, “Os ydy rhywun sy'n aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw yn dod i gysylltiad â'r bwydydd hynny, fydd hynny'n gwneud y bwydydd yn aflan?” A dyma'r offeiriaid yn ateb, “Bydd.”

14. Yna dyma Haggai yn dweud: “‘Mae'r un peth yn wir am y bobl yma a'r genedl yma,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘a'u cynnyrch nhw i gyd. Mae popeth maen nhw'n ei offrymu yn aflan!

15. “‘Meddyliwch sut roedd pethau cyn i'r gwaith o ailadeiladu teml yr ARGLWYDD ddechrau.

16. Pan oedd rhywun yn disgwyl dau ddeg mesur o ŷd, doedd ond deg yno; ac os oedd rhywun eisiau codi hanner can mesur o win o'r cafn, doedd ond dau ddeg yno.

17. Ro'n i'n eich cosbi chi drwy anfon gormod o wres, gormod o law neu genllysg ar eich cnydau, ond wnaethoch chi ddim troi ata i,’ meddai'r ARGLWYDD.

18. “‘Meddyliwch sut mae pethau wedi bod ers y diwrnod pan gafodd y sylfaeni eu gosod i ailadeiladu teml yr ARGLWYDD, ie, hyd heddiw (y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis):

19. Falle nad oes grawn yn yr ysgubor, ac nad ydy'r gwinwydd, y coed ffigys, y pomgranadau a'r coed olewydd wedi rhoi eu ffrwyth eto, ond o heddiw ymlaen dw i'n mynd i'ch bendithio chi.’”

20. A dyma Haggai yn cael ail neges gan yr ARGLWYDD ar y pedwerydd ar hugain o'r mis:

21. “Dywed hyn wrth Serwbabel, llywodraethwr Jwda: ‘Dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear.

22. Dw i'n mynd i chwalu gorseddau brenhinol a dinistrio grym llywodraethau'r gwledydd. Bydda i'n troi'r cerbydau rhyfel drosodd, gyda'i gyrrwyr. Bydd ceffylau rhyfel yn syrthio, a'u marchogion yn lladd ei gilydd.

23. “‘Ar y diwrnod hwnnw,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—‘bydda i'n dy gymryd di, Serwbabel fy ngwas, ac yn dy wneud di fel sêl-fodrwy. Dw i wedi dy ddewis di.’ Dyna mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud.”

Darllenwch bennod gyflawn Haggai 2