Hen Destament

Testament Newydd

Haggai 1:4-10 beibl.net 2015 (BNET)

4. “Ydy hi'n iawn eich bod chi'n byw yn eich tai crand,tra mae'r deml yma yn adfail?

5. Felly dyma mae yr ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:‘Meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!

6. Dych chi wedi hau digon, ond bach iawn ydy'r cynhaeaf;dych chi'n bwyta, ond byth yn cael eich llenwi;dych chi'n yfed, ond heb gael eich bodloni;dych chi'n gwisgo dillad, ond yn methu cadw'n gynnes;mae fel petai'r cyflog mae pobl yn ei ennillyn mynd i bwrs sydd a thwll ynddo!

7. Ie, meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

8. ‘Ewch i'r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu'r deml;bydd hynny'n fy mhlesio,a bydd pobl yn fy mharchu,’ meddai'r ARGLWYDD.

9. ‘Roeddech chi'n disgwyl cnydau da,ond yn cael cnydau gwael.Roeddech chi'n ei gasglu,ond yna byddwn i'n ei chwythu i ffwrdd!’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.‘Pam? – Am fod fy nhÅ· i yn adfeilion, a chithau'n rhy brysur yn poeni amdanoch chi'ch hunain!

10. Dyna pam mae'r awyr heb roi gwlith,a'r tir wedi peidio tyfu cnydau.

Darllenwch bennod gyflawn Haggai 1