Penodau

  1. 1
  2. 2

Hen Destament

Testament Newydd

Haggai 1 beibl.net 2015 (BNET)

Cyflwyniad

1. Ar ddiwrnod cynta'r chweched mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius, dyma'r proffwyd Haggai yn rhoi'r neges yma gan yr ARGLWYDD i Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a hefyd i Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad:

2. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Mae'r bobl yma'n dweud, ‘Mae'n rhy fuan i ni ailadeiladu teml yr ARGLWYDD.’”

Duw yn gorchymyn ailadeiladu'r Deml

3. A dyma'r proffwyd Haggai yn rhoi'r neges yma gan yr ARGLWYDD:

4. “Ydy hi'n iawn eich bod chi'n byw yn eich tai crand,tra mae'r deml yma yn adfail?

5. Felly dyma mae yr ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:‘Meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!

6. Dych chi wedi hau digon, ond bach iawn ydy'r cynhaeaf;dych chi'n bwyta, ond byth yn cael eich llenwi;dych chi'n yfed, ond heb gael eich bodloni;dych chi'n gwisgo dillad, ond yn methu cadw'n gynnes;mae fel petai'r cyflog mae pobl yn ei ennillyn mynd i bwrs sydd a thwll ynddo!

7. Ie, meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

8. ‘Ewch i'r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu'r deml;bydd hynny'n fy mhlesio,a bydd pobl yn fy mharchu,’ meddai'r ARGLWYDD.

9. ‘Roeddech chi'n disgwyl cnydau da,ond yn cael cnydau gwael.Roeddech chi'n ei gasglu,ond yna byddwn i'n ei chwythu i ffwrdd!’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.‘Pam? – Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau'n rhy brysur yn poeni amdanoch chi'ch hunain!

10. Dyna pam mae'r awyr heb roi gwlith,a'r tir wedi peidio tyfu cnydau.

11. Fi sydd wedi anfon sychder drwy'r wlad –ar y bryniau,ar yr ŷd a'r grawnwin a'r olewydda phopeth arall sy'n tyfu o'r ddaear,ar bobl ac anifeiliaid,ac ar ffrwyth eich holl waith caled.’”

Y bobl yn ufuddhau

12. Dyma Serwbabel fab Shealtiel, Jehoshwa fab Iehotsadac yr archoffeiriad, a phawb arall, yn gwneud beth roedd yr ARGLWYDD eu Duw yn ei ddweud, a gwrando ar neges Haggai, y proffwyd roedd e wedi ei anfon. Roedd y bobl yn parchu'r ARGLWYDD eto.

13. Yna dyma Haggai, negesydd yr ARGLWYDD, yn rhoi neges arall gan Dduw i'r bobl, “‘Dw i gyda chi,’ meddai'r ARGLWYDD.”

14. Dyma'r ARGLWYDD yn sbarduno Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda a Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad, a phawb arall hefyd: a dyma nhw'n bwrw iddi â'r gwaith o adeiladu teml eu Duw, yr ARGLWYDD holl-bwerus.

15. Dechreuodd y gwaith ar y pedwerydd ar hugain o'r chweched mis.