Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 3:6-19 beibl.net 2015 (BNET)

6. Pan mae'n sefyll mae'r ddaear yn crynu;pan mae'n edrych mae'r gwledydd yn dychryn.Mae'r mynyddoedd hynafol yn dryllio,a'r bryniau oesol yn suddo,wrth iddo deithio'r hen ffyrdd.

7. Dw i'n gweld pebyll llwyth Cwshan mewn panig,a llenni pebyll Midian yn crynu.

8. Ydy'r afonydd wedi dy gynhyrfu di, ARGLWYDD?Wyt ti wedi gwylltio gyda'r afonydd?Wyt ti wedi digio gyda'r môr?Ai dyna pam rwyt ti wedi dringo i dy gerbyd?– cerbyd dy fuddugoliaeth.

9. Mae dy fwa wedi ei dynnu allan,a dy saethau yn barod i ufuddhau i ti. Saib Mae afonydd yn llifo ac yn hollti'r ddaear.

10. Mae'r mynyddoedd yn gwingo wrth dy weld yn dod.Mae'n arllwys y glaw,a'r storm ar y môr yn rhuoa'r tonnau'n cael eu taflu'n uchel.

11. Mae'r haul a'r lleuad yn aros yn llonydd;mae fflachiadau dy saethau,a golau llachar dy waywffon yn eu cuddio.

12. Rwyt ti'n stompio drwy'r ddaear yn wyllt,a sathru'r gwledydd dan draed.

13. Ti'n mynd allan i achub dy bobl;i achub y gwas rwyt wedi ei eneinio.Ti'n taro arweinydd y wlad ddrwg,a'i gadael yn noeth o'i phen i'w chynffon. Saib

14. Ti'n trywanu ei milwyr gyda'u picellau eu hunain,wrth iddyn nhw ruthro ymlaen i'n chwalu ni.Roedden nhw'n chwerthin a dathluwrth gam-drin y tlawd yn y dirgel.

15. Roedd dy geffylau yn sathru'r môr,ac yn gwneud i'r dŵr ewynnu.

16. Pan glywais y sŵn, roedd fy mol yn corddi,a'm gwefusau'n crynu.Roedd fy nghorff yn teimlo'n wan,a'm coesau'n gwegian.Dw i'n mynd i ddisgwyl yn dawel i ddydd trybiniddod ar y bobl sy'n ymosod arnon ni.

17. Pan mae'r goeden ffigys heb flodeuo,a'r grawnwin heb dyfu yn y winllan;Pan mae'r coed olewydd wedi methu,a dim cnydau ar y caeau teras;Pan does dim defaid yn y gorlan,nag ychen yn y beudy;

18. Drwy'r cwbl, bydda i'n addoli'r ARGLWYDDac yn dathlu'r Duw sydd yn fy achub i!

19. Mae'r ARGLWYDD, fy meistr, yn rhoi nerth i mi,ac yn gwneud fy nhraed mor saff â'r carwsy'n crwydro'r ucheldir garw.I'r arweinydd cerdd: ar offerynnau llinynnol.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 3