Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 3:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar “Shigionoth”.

2. ARGLWYDD, dw i wedi clywed beth rwyt ti'n gallu ei wneud.Mae'n syfrdanol!Gwna yr un peth eto yn ein dyddiau ni.Dangos dy nerth yn ein dyddiau.Er dy fod yn ddig, dangos drugaredd aton ni!

3. Dw i'n gweld Duw yn dod eto o Teman;a'r Un Sanctaidd o Fynydd Paran. Saib Mae ei ysblander yn llenwi'r awyr,ac mae'r ddaear i gyd yn ei foli.

4. Mae e'n disgleirio fel golau llachar.Daw mellten sy'n fforchio o'i law,lle mae'n cuddio ei nerth.

5. Mae'r pla yn mynd allan o'i flaen,a haint yn ei ddilyn.

6. Pan mae'n sefyll mae'r ddaear yn crynu;pan mae'n edrych mae'r gwledydd yn dychryn.Mae'r mynyddoedd hynafol yn dryllio,a'r bryniau oesol yn suddo,wrth iddo deithio'r hen ffyrdd.

7. Dw i'n gweld pebyll llwyth Cwshan mewn panig,a llenni pebyll Midian yn crynu.

8. Ydy'r afonydd wedi dy gynhyrfu di, ARGLWYDD?Wyt ti wedi gwylltio gyda'r afonydd?Wyt ti wedi digio gyda'r môr?Ai dyna pam rwyt ti wedi dringo i dy gerbyd?– cerbyd dy fuddugoliaeth.

9. Mae dy fwa wedi ei dynnu allan,a dy saethau yn barod i ufuddhau i ti. Saib Mae afonydd yn llifo ac yn hollti'r ddaear.

10. Mae'r mynyddoedd yn gwingo wrth dy weld yn dod.Mae'n arllwys y glaw,a'r storm ar y môr yn rhuoa'r tonnau'n cael eu taflu'n uchel.

11. Mae'r haul a'r lleuad yn aros yn llonydd;mae fflachiadau dy saethau,a golau llachar dy waywffon yn eu cuddio.

12. Rwyt ti'n stompio drwy'r ddaear yn wyllt,a sathru'r gwledydd dan draed.

13. Ti'n mynd allan i achub dy bobl;i achub y gwas rwyt wedi ei eneinio.Ti'n taro arweinydd y wlad ddrwg,a'i gadael yn noeth o'i phen i'w chynffon. Saib

14. Ti'n trywanu ei milwyr gyda'u picellau eu hunain,wrth iddyn nhw ruthro ymlaen i'n chwalu ni.Roedden nhw'n chwerthin a dathluwrth gam-drin y tlawd yn y dirgel.

15. Roedd dy geffylau yn sathru'r môr,ac yn gwneud i'r dŵr ewynnu.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 3