Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 2:7-14 beibl.net 2015 (BNET)

7. Bydd y bobl wyt ti mewn dyled iddyn nhwyn codi heb unrhyw rybudd.Byddan nhw'n deffro'n sydyn,yn dy ddychryn ac yn cymryd dy eiddo di.

8. Am dy fod ti wedi dwyn oddi ar lawer o wledydd,bydd y rhai sydd ar ôl yn dwyn oddi arnat ti.Bydd hyn yn digwydd am dy fod wedi lladd cymaint o bobl,a dinistrio gwledydd a dinasoedd.

9. Gwae chi sydd wedi ennill cyfoeth i'ch teuludrwy fanteisio'n annheg ar bobl eraill.Chi sydd wedi gwneud yn siŵrfod eich nyth eich hunain yn saff –yn uchel, allan o gyrraedd unrhyw berygl.

10. Mae eich sgam wedi dwyn cywilydd ar eich teulu.Drwy ddinistrio cymaint o wledydddych chi wedi dwyn dinistr arnoch eich hunain.

11. Bydd y cerrig yn waliau dy dŷ yn gweiddi allan,a'r trawstiau pren yn tystio yn dy erbyn.

12. Gwae'r un sy'n tywallt gwaed i adeiladu dinas,ac yn gosod ei sylfeini ar anghyfiawnder.

13. Gwylia di! Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi datgan:Bydd ymdrechion y bobloedd yn cael eu llosgi.Bydd holl lafur y gwledydd i ddim byd.

14. Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr,bydd pawb drwy'r byd yn gwybod mor wych ydy'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 2