Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 2:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. Mae eich sgam wedi dwyn cywilydd ar eich teulu.Drwy ddinistrio cymaint o wledydddych chi wedi dwyn dinistr arnoch eich hunain.

11. Bydd y cerrig yn waliau dy dŷ yn gweiddi allan,a'r trawstiau pren yn tystio yn dy erbyn.

12. Gwae'r un sy'n tywallt gwaed i adeiladu dinas,ac yn gosod ei sylfeini ar anghyfiawnder.

13. Gwylia di! Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi datgan:Bydd ymdrechion y bobloedd yn cael eu llosgi.Bydd holl lafur y gwledydd i ddim byd.

14. Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr,bydd pawb drwy'r byd yn gwybod mor wych ydy'r ARGLWYDD.

15. Gwae'r un sy'n gorfodi pobl erailli yfed y gwin sy'n cael ei dywallt o gwpan dy ddigofaint.Eu meddwi nhw er mwyn edrych arnyn nhw'n noeth.

16. Byddi di'n feddw o gywilydd, nid mawredd!Dy dro di i oryfed a dangos dy rannau preifat.Mae cwpan digofaint yr ARGLWYDD yn dod i ti!Byddi'n chwydu cywilydd yn lle brolio dy ysblander mawreddog!

17. Byddi'n talu am ddinistrio coedwigoedd Libanus!Byddi'n dychryn am dy fywyd am i ti ladd yr holl fywyd gwyllt yno;am dy fod ti wedi lladd cymaint o bobl,a dinistrio gwledydd a dinasoedd.

18. Ydy delw wedi ei gerfio o unrhyw werth?Neu eilun o fetel sy'n camarwain pobl?Pam fyddai'r crefftwr wnaeth ei lunio yn ei drystio?Rhyw ‛dduw‛ diwerth sydd ddim yn gallu siarad!

19. Gwae'r un sy'n dweud wrth ddarn o bren, ‘Deffra!’neu wrth garreg fud, ‘Gwna rywbeth!’Ydy peth felly'n gallu rhoi arweiniad?Mae wedi ei orchuddio'n grand gydag aur neu arian,ond does dim bywyd ynddo!

20. Ond mae'r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd.Ust! Mae'r byd i gyd yn fud o'i flaen!”

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 2