Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 2:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i'n mynd i sefyll ar y tŵr gwylio,ac edrych allan o wal y ddinas.Disgwyl i weld beth fydd Duw yn ei ddweud,a sut fydd e'n ateb y gŵyn sydd gen i.”

2. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb:“Ysgrifenna'r neges yma yn glir ar lechi,i'r negeswr sy'n rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd.

3. Mae'n weledigaeth o beth sy'n mynd i ddigwydd;mae'n dangos sut fydd pethau yn y diwedd.Os nad ydy e'n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar –mae'n siŵr o ddod ar yr amser iawn.

4. A dyma'r neges:Mae'r gelyn mor falch a'i gymhellion yn ddrwg,ond bydd yr un cyfiawn yn byw trwy ei ffyddlondeb.

5. Bydd gwin ei lwyddiant yn achos cwympi'r gelyn balch, anfodlon.Mae ganddo chwant bwyd fel y bedd;fel marwolaeth, dydy e byth yn fodlon.Dyna pam mae'r gelyn yn casgluac yn concro un wlad ar ôl y llall.

6. Bydd y gwledydd hynny yn ei wawdio ryw ddydd!Byddan nhw'n gwneud hwyl am ei ben ar gân! –‘Gwae'r un sy'n cymryd eiddo oddi ar bobl!(Am faint mae hyn i ddigwydd?)Gwneud ei hun yn gyfoethogtrwy elwa ar draul eraill!’

7. Bydd y bobl wyt ti mewn dyled iddyn nhwyn codi heb unrhyw rybudd.Byddan nhw'n deffro'n sydyn,yn dy ddychryn ac yn cymryd dy eiddo di.

8. Am dy fod ti wedi dwyn oddi ar lawer o wledydd,bydd y rhai sydd ar ôl yn dwyn oddi arnat ti.Bydd hyn yn digwydd am dy fod wedi lladd cymaint o bobl,a dinistrio gwledydd a dinasoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 2