Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 1:7-16 beibl.net 2015 (BNET)

7. Maen nhw'n codi braw ac arswyd ar bawb.Maen nhw'n falch ac yn gwneud fel y mynnon.

8. Mae eu ceffylau yn gyflymach na'r llewpard,ac yn fwy siarp na bleiddiaid yn y nos.Maen nhw'n carlamu am bellter enfawr,ac yn disgyn fel fwlturiaid ar ysglyfaeth.

9. Trais ydy eu hunig fwriad.Maen nhw'n hollol benderfynol,ac yn casglu carcharorion rif y tywod.

10. Maen nhw'n gwneud sbort o frenhinoedd,ac yn chwerthin ar lywodraethwyr.Dydy caer amddiffynnol yn ddim byd ond jôc iddyn nhw;maen nhw'n codi rampiau, yn gwarchae a gorchfygu.

11. Yna i ffwrdd â nhw fel y gwynt!Dynion sy'n addoli eu grym milwrol;a byddan nhw'n cael eu galw i gyfri.”

12. “Ond ARGLWYDD,ti ydy'r Duw oedd ar waith yn yr hen ddyddiau!Ti ydy'r Duw Sanctaidd,fyddi di byth yn marw! ARGLWYDD, ti'n eu defnyddio nhw i farnu!Ein Craig, rwyt ti wedi eu penodi nhw i gosbi!

13. Mae dy lygaid yn rhy lân i edrych ar ddrygioni!Sut alli di esgusodi annhegwch?Sut wyt ti'n gallu dioddef pobl mor dwyllodrus?Sut alli di eistedd yn dawel tra mae pobl ddrwgyn llyncu pobl sy'n well na nhw?

14. Rwyt ti'n gwneud pobl fel pysgod,neu greaduriaid y môr heb neb i'w harwain.

15. Mae'r gelyn yn eu dal nhw gyda bachyn;mae'n eu llusgo nhw yn y rhwyd wnaeth ei thaflu.Wrth eu casglu gyda'i rwyd bysgotamae'n dathlu'n llawen ar ôl gwneud mor dda.

16. Wedyn mae'n cyflwyno aberthauac yn llosgi arogldarth i'w rwydau.Nhw sy'n rhoi bywyd bras iddo,a digonedd i'w fwyta

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 1