Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 1:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Y neges gafodd y proffwyd Habacuc gan yr ARGLWYDD:

2. “ARGLWYDD, am faint mwy rhaid i mi alwcyn i ti fy ateb i?Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ond dwyt ti ddim yn achub.

3. Pam wyt ti'n caniatáu y fath anghyfiawnder?Pam wyt ti'n gadael i'r fath ddrygioni fynd yn ei flaen?Does dim i'w weld ond dinistr a thrais!Dim byd ond ffraeo a mwy o wrthdaro!

4. Mae'r gyfraith wedi colli ei grym,a does dim cyfiawnder byth.Mae pobl ddrwg yn bygwth pobl ddiniwed,a chyfiawnder wedi ei dwistio'n gam.”

5. “Edrychwch ar y cenhedloedd,a cewch sioc go iawn.Mae rhywbeth ar fin digwyddfyddwch chi ddim yn ei gredu,petai rhywun yn dweud wrthoch chi!

6. Dw i'n codi'r Babiloniaid –y genedl greulon a gwylltsy'n ysgubo ar draws y bydyn concro a dwyn cartrefi pobl eraill.

7. Maen nhw'n codi braw ac arswyd ar bawb.Maen nhw'n falch ac yn gwneud fel y mynnon.

8. Mae eu ceffylau yn gyflymach na'r llewpard,ac yn fwy siarp na bleiddiaid yn y nos.Maen nhw'n carlamu am bellter enfawr,ac yn disgyn fel fwlturiaid ar ysglyfaeth.

9. Trais ydy eu hunig fwriad.Maen nhw'n hollol benderfynol,ac yn casglu carcharorion rif y tywod.

10. Maen nhw'n gwneud sbort o frenhinoedd,ac yn chwerthin ar lywodraethwyr.Dydy caer amddiffynnol yn ddim byd ond jôc iddyn nhw;maen nhw'n codi rampiau, yn gwarchae a gorchfygu.

11. Yna i ffwrdd â nhw fel y gwynt!Dynion sy'n addoli eu grym milwrol;a byddan nhw'n cael eu galw i gyfri.”

12. “Ond ARGLWYDD,ti ydy'r Duw oedd ar waith yn yr hen ddyddiau!Ti ydy'r Duw Sanctaidd,fyddi di byth yn marw! ARGLWYDD, ti'n eu defnyddio nhw i farnu!Ein Craig, rwyt ti wedi eu penodi nhw i gosbi!

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 1