Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 8:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ond doedd Duw ddim wedi anghofio am Noa a'r holl anifeiliaid gwyllt a dof oedd gydag e yn yr arch. Felly gwnaeth i wynt chwythu, a dyma lefel y dŵr yn dechrau mynd i lawr.

2. Dyma'r ffynhonnau dŵr tanddaearol a'r llifddorau yn yr awyr yn cael eu cau, a dyma hi'n stopio glawio.

3. Dechreuodd y dŵr fynd i lawr.

4. Bum mis union ar ôl i'r dilyw ddechrau, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat.

5. Ddau fis a hanner wedyn, wrth i'r dŵr ddal i fynd i lawr o dipyn i beth, daeth rhai o'r mynyddoedd eraill i'r golwg.

6. Pedwar deg diwrnod ar ôl i'r arch lanio, dyma Noa yn agor ffenest

7. ac yn anfon cigfran allan. Roedd hi'n hedfan i ffwrdd ac yn dod yn ôl nes oedd y dŵr wedi sychu oddi ar wyneb y ddaear.

8. Wedyn dyma Noa yn anfon colomen allan, i weld os oedd y dŵr wedi mynd.

9. Ond roedd y golomen yn methu dod o hyd i le i glwydo, a daeth yn ôl i'r arch. Roedd y dŵr yn dal i orchuddio'r ddaear. Estynnodd Noa ei law ati a dod â hi yn ôl i mewn i'r arch.

10. Arhosodd am wythnos cyn danfon y golomen allan eto.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 8