Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 7:11-18 beibl.net 2015 (BNET)

11. Pan oedd Noa yn 600 mlwydd oed, ar yr ail ar bymtheg o'r ail fis,byrstiodd y ffynhonnau dŵr tanddaearol,ac agorodd llifddorau'r awyr.

12. Buodd hi'n bwrw glaw yn drwm, ddydd a nos, am bedwar deg diwrnod.

13. Ar y diwrnod y dechreuodd hi lawio, aeth Noa i'r arch gyda'i wraig, ei feibion, Shem, Cham a Jaffeth, a'u gwragedd nhw.

14. Gyda nhw roedd y gwahanol fathau o anifeiliaid, gwyllt a dof, ymlusgiaid, adar a phryfed – popeth oedd yn gallu hedfan.

15. Aeth y creaduriaid byw i gyd at Noa i'r arch bob yn ddau –

16. gwryw a benyw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa. A dyma'r ARGLWYDD yn eu cau nhw i mewn.

17. Dyma'r dilyw yn para am bedwar deg diwrnod. Roedd y llifogydd yn mynd yn waeth, nes i'r arch gael ei chodi ar wyneb y dŵr.

18. Roedd y dŵr yn codi'n uwch ac yn uwch, a'r arch yn nofio ar yr wyneb.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 7