Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 7:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Noa, “Dos i mewn i'r arch gyda dy deulu. Ti ydy'r unig un sy'n gwneud beth dw i eisiau.

2. Dos â saith pâr o bob anifail sy'n iawn i'w fwyta a'i aberthu, ac un pâr o bob anifail arall. Un gwryw ac un fenyw ym mhob pâr.

3. Dos â saith pâr o bob aderyn gyda ti hefyd. Dw i eisiau i'r amrywiaeth o anifeiliaid ac adar oroesi ar y ddaear.

4. Wythnos i heddiw dw i'n mynd i wneud iddi lawio. Bydd hi'n glawio nos a dydd am bedwar deg diwrnod. Dw i'n mynd i gael gwared â phopeth byw dw i wedi ei greu oddi ar wyneb y ddaear.”

5. Dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.

6. Roedd Noa yn 600 oed pan ddaeth y llifogydd a boddi'r ddaear.

7. Aeth Noa a'i wraig a'i feibion a'u gwragedd nhw i mewn i'r arch i ddianc rhag y llifogydd.

8. Dyma'r anifeiliaid gwahanol (y rhai oedd yn iawn i'w bwyta a'u haberthu, a'r lleill hefyd), a'r gwahanol fathau o adar a chreaduriaid bach eraill,

9. yn dod at Noa i'r arch bob yn bâr – gwryw a benyw. Digwyddodd hyn yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 7