Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 6:3-17 beibl.net 2015 (BNET)

3. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Alla i ddim gadael i bobl fyw am byth. Maen nhw'n greaduriaid sy'n mynd i farw, ac o hyn ymlaen fyddan nhw ddim yn byw fwy na 120 mlynedd.”

4. Roedd cewri yn byw ar y ddaear bryd hynny (ac wedyn hefyd). Nhw oedd y plant gafodd eu geni ar ôl i'r bodau nefol gael rhyw gyda merched dynol. Dyma arwyr enwog yr hen fyd.

5. Roedd yr ARGLWYDD yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw'n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy'r amser.

6. Roedd yr ARGLWYDD yn sori ei fod e wedi creu'r ddynoliaeth. Roedd wedi ei frifo a'i ddigio.

7. Felly dyma fe'n dweud, “Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth yma dw i wedi ei chreu. Ydw, a'r anifeiliaid, yr holl ymlusgiaid a phryfed a'r adar hefyd. Dw i'n sori mod i wedi eu creu nhw yn y lle cyntaf.”

8. Ond roedd Noa wedi plesio'r ARGLWYDD.

9. Dyma hanes Noa a'i deulu:Roedd Noa yn ddyn da – yr unig un bryd hynny oedd yn gwneud beth roedd Duw eisiau. Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw.

10. Roedd ganddo dri mab, sef Shem, Cham a Jaffeth.

11. Roedd y byd wedi ei sbwylio yng ngolwg Duw. Roedd trais a chreulondeb ym mhobman.

12. Gwelodd Duw fod y byd wedi ei sbwylio go iawn. Roedd pawb yn gwneud drwg.

13. Felly dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dw i wedi penderfynu bod rhaid i bawb gael eu dinistrio. Mae trais a chreulondeb ym mhobman, felly dw i'n mynd i'w dinistrio nhw, a'r byd hefo nhw.

14. Dw i am i ti adeiladu arch, sef cwch mawr, wedi ei gwneud o goed goffer. Rhanna hi yn ystafelloedd a'i selio hi y tu mewn a'r tu allan â pyg.

15. Gwna hi'n 130 metr o hyd, 22 metr o led ac 13 metr o uchder.

16. Rho do ar yr arch, ond gad fwlch o 45 centimetr rhwng y to ac ochrau'r arch. Rho ddrws ar ochr yr arch, a thri llawr ynddi – yr isaf, y canol a'r uchaf.

17. Dw i'n mynd i ddod â llifogydd ar y ddaear fydd yn boddi popeth sy'n anadlu. Bydd popeth byw yn marw.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 6