Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 50:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Aethon nhw â'i gorff i wlad Canaan, a'i gladdu yn yr ogof yn Machpela ger Mamre, ar y tir oedd Abraham wedi ei brynu gan Effron yr Hethiad i fod yn fan claddu i'w deulu.

14. Ar ôl claddu ei dad aeth Joseff yn ôl i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb arall oedd wedi bod yn yr angladd.

15. Gan fod eu tad wedi marw, roedd brodyr Joseff yn dechrau ofni, “Beth os ydy Joseff yn dal yn ddig hefo ni? Beth os ydy e am dalu'r pwyth yn ôl am yr holl ddrwg wnaethon ni iddo?”

16. Felly dyma nhw'n anfon neges at Joseff: “Roedd dad wedi dweud wrthon ni cyn iddo farw,

17. ‘Dwedwch wrth Joseff: Plîs maddau i dy frodyr am y drwg wnaethon nhw, yn dy drin di mor wael.’ Felly dyma ni, gweision y Duw roedd dy dad yn ei addoli. O, plîs wnei di faddau i ni am beth wnaethon ni?” Pan glywodd Joseff hyn dyma fe'n dechrau crïo.

18. Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Byddwn ni'n gaethweision i ti.”

19. Ond dyma Joseff yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Ai Duw ydw i?

20. Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi y drwg yn beth da. Roedd ganddo eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi'n weld heddiw.

21. Felly peidiwch bod ag ofn. Gwna i ofalu amdanoch chi a'ch plant.” Felly rhoddodd Joseff dawelwch meddwl iddyn nhw wrth siarad yn garedig gyda nhw.

22. Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Cafodd Joseff fyw i fod yn 110 oed.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 50