Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 50:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Joseff yn cofleidio corff ei dad. Roedd yn crïo ac yn ei gusanu.

2. Wedyn gorchmynnodd i'w weision, y meddygon, falmeiddio'r corff. A dyna gafodd ei wneud i gorff Jacob.

3. Cymerodd y broses yma bedwar deg diwrnod, achos dyna faint o amser roedd yn ei gymryd i falmeiddio corff. A bu cyfnod o alaru ar ei ôl drwy wlad yr Aifft am saith deg diwrnod.

4. Pan oedd y cyfnod o alar drosodd, dyma Joseff yn mynd at gynghorwyr y Pharo, a dweud: “Mae gen i ffafr i'w gofyn gan y Pharo. Wnewch chi ofyn iddo ar fy rhan i, plîs?

5. Gwnaeth fy nhad i mi addo rhywbeth iddo ar lw. Dyma ddwedodd e: ‘Dw i ar fin marw, a dw i eisiau i ti fy nghladdu i yn y bedd dw i wedi ei dorri i mi fy hun yng ngwlad Canaan.’ Felly gofyn ydw i am ganiatâd i fynd yno i gladdu dad. Bydda i'n dod yn ôl yma wedyn.”

6. Dyma'r Pharo'n dweud, “Dos i gladdu dy dad, fel gwnest ti addo iddo.”

7. Felly dyma Joseff yn mynd i gladdu ei dad. Aeth swyddogion y Pharo i gyd gydag e, a phobl bwysig y llys ac arweinwyr y wlad.

8. Teulu Joseff i gyd, ei frodyr, a theulu ei dad hefyd. Dim ond y plant bach a'r anifeiliaid gafodd eu gadael yn ardal Gosen.

9. Roedd cerbydau rhyfel a marchogion gyda nhw hefyd – tyrfa fawr iawn o bobl.

10. Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Atad (i'r dwyrain o Afon Iorddonen) dyma nhw'n cynnal cyfnod o alar angladdol. Buodd Joseff yn galaru yno am ei dad am wythnos.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 50