Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 49:3-17 beibl.net 2015 (BNET)

3. Reuben, ti ydy fy mab hynaf;fy nghryfder, a ffrwyth cyntaf fy egni –yr un â'r safle uchaf a'r anrhydedd mwyaf.

4. Ond rwyt ti mor afreolus â dŵr –fyddi di ddim yn gyntaf.Est ti i mewn i wely dy dad,a'i lygru trwy dreisio fy ngwraig –gorwedd ar glustogau dy dad!

5. Mae Simeon a Lefi yn frodyr.Dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio arfau treisiol.

6. Dw i ddim eisiau bod yn rhan o'r peth –dw i am gadw draw o'r math yna o feddwl.Roedden nhw wedi gwylltio, a dyma nhw'n lladd dynionfel rhai'n gwneud ychen yn gloff am hwyl.

7. Melltith arnyn nhw am wylltio mor ofnadwy;am ddigio a bod mor greulon.Dw i'n mynd i wasgaru eu disgynyddion nhwar hyd a lled Israel!

8. Jwda, bydd dy frodyr yn dy ganmol di.Byddi di'n cael y llaw uchaf ar dy elynion.Bydd teulu dy dad yn ymgrymu'n isel o dy flaen di.

9. Jwda, fy mab, rwyt ti fel llew ifancwedi lladd dy brae ac yn sefyll uwch ei ben.Mae'n gorwedd i lawr eto fel llew,a does neb yn meiddio aflonyddu arno.

10. Fydd y deyrnwialen ddim yn gadael Jwda.Bydd ffon y llywodraethwr gan ei ddisgynyddionnes daw pobl i dalu teyrnged iddo.Bydd pobl y gwledydd yn ufuddhau iddo.

11. Bydd yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden,a'i asen ifanc wrth y winwydden orau.Bydd yn golchi ei ddillad mewn gwina'i fantell yng ngwaed y grawnwin.

12. Mae ei lygaid yn gochion gan win,a'i ddannedd yn wynion fel llaeth.

13. Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr.Bydd yn hafan ddiogel i longau.Bydd ei ffin yn ymestyn at Sidon.

14. Mae Issachar fel asyn cryfyn gorwedd dan bwysau ei baciau.

15. Gwelodd le da i orffwysa bod y wlad yno yn hyfryd.Felly plygodd i lawr i dderbyn baich ar ei gefna chael ei hun yn gaethwas.

16. Bydd Dan yn rheoli ei boblfel un o lwythau Israel.

17. Boed i Dan fod fel neidr ar ochr y ffordd –fel gwiber ar y llwybryn brathu troed y ceffyla gwneud i'r marchog syrthio yn ôl.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 49