Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 48:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Rywbryd wedyn clywodd Joseff fod ei dad yn sâl. Felly aeth i'w weld gyda'i ddau fab Manasse ac Effraim.

2. Pan ddywedwyd wrth Jacob fod ei fab Joseff wedi dod i'w weld dyma fe'n bywiogi ac yn eistedd i fyny yn ei wely.

3. A dyma fe'n dweud wrth Joseff. “Pan oeddwn i yn Lws yng ngwlad Canaan, roedd y Duw sy'n rheoli popeth wedi ymddangos i mi. Bendithiodd fi

4. a dweud wrtho i, ‘Dw i'n mynd i wneud yn siŵr dy fod ti'n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydd grŵp o bobloedd yn dod ohonot ti. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti a dy ddisgynyddion am byth.’

5. Joseff, bydd dy ddau fab, gafodd eu geni i ti yn yr Aifft cyn i mi ddod yma, yn feibion i mi. Bydd Effraim a Manasse yn cael eu cyfri yn feibion i mi, yn union yr un fath â Reuben a Simeon.

6. Bydd y plant eraill sydd gen ti yn aros yn feibion i ti, ond yn cael eu rhestru fel rhai fydd yn etifeddu tir gan eu brodyr.

7. Buodd Rachel farw yng ngwlad Canaan pan oeddwn i ar fy ffordd yn ôl o Padan, ac roeddwn i'n drist iawn. Digwyddodd pan oedden ni'n dal yn reit bell o Effrath. Felly dyma fi'n ei chladdu hi yno, ar y ffordd i Effrath” (hynny ydy, Bethlehem).

8. “Pwy ydy'r rhain?” meddai Jacob pan welodd feibion Joseff.

9. “Dyma'r meibion roddodd Duw i mi yma,” meddai Joseff wrth ei dad. A dyma Jacob yn dweud, “Tyrd â nhw ata i, i mi gael eu bendithio nhw.”

10. Doedd Jacob ddim yn gweld yn dda iawn. Roedd wedi colli ei olwg wrth fynd yn hen. Felly dyma Joseff yn mynd â'i feibion yn nes at ei dad, a dyma Jacob yn eu cofleidio nhw a'u cusanu nhw.

11. Ac meddai wrth Joseff, “Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i'n dy weld di eto. A dyma Duw wedi gadael i mi weld dy blant di hefyd!”

12. Cymerodd Joseff y bechgyn oddi ar liniau ei dad, ac wedyn ymgrymodd â'i wyneb ar lawr o'i flaen.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 48