Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 47:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly dyma Joseff yn mynd at y Pharo a dweud wrtho, “Mae dad a'm brodyr i wedi dod yma o wlad Canaan gyda'i hanifeiliaid a'u heiddo i gyd. Maen nhw wedi cyrraedd ardal Gosen.”

2. Dewisodd bump o'i frodyr i fynd gydag e, a'u cyflwyno i'r Pharo.

3. Gofynnodd y Pharo i'r brodyr, “Beth ydy'ch gwaith chi?” A dyma nhw'n ateb, “Mae dy weision yn fugeiliaid. Dyna mae'r teulu wedi ei wneud ers cenedlaethau.”

4. A dyma nhw'n dweud wrth y Pharo, “Dŷn ni wedi dod i aros dros dro yn y wlad. Does dim porfa i'n hanifeiliaid ni yn Canaan am fod y newyn mor drwm yno. Plîs wnewch chi adael i'ch gweision aros yn ardal Gosen.”

5. A dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Mae dy dad a dy frodyr wedi dod atat ti.

6. Mae gwlad yr Aifft o dy flaen di. Gad i dy dad a dy frodyr setlo yn y rhan orau o'r wlad. Gad iddyn nhw fynd i fyw yn ardal Gosen. Dewis y rhai gorau ohonyn nhw i ofalu am fy anifeiliaid i.”

7. Wedyn aeth Joseff â'i dad Jacob at y Pharo i'w gyflwyno iddo. A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo.

8. Gofynnodd y Pharo i Jacob, “Faint ydy'ch oed chi?”

9. “Dw i wedi crwydro'r hen fyd yma ers 130 o flynyddoedd,” meddai Jacob. “Bywyd byr, a digon o drafferthion. Dw i ddim wedi cael byw mor hir â'm hynafiaid.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 47