Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 45:14-26 beibl.net 2015 (BNET)

14. Wedyn dyma fe'n taflu ei freichiau am Benjamin a'i gofleidio. Roedd y ddau ohonyn nhw yn crïo ym mreichiau ei gilydd.

15. Yna, yn dal i grïo, cusanodd ei frodyr eraill i gyd. A dyna pryd dechreuodd ei frodyr siarad gydag e.

16. Dyma'r newyddion yn cyrraedd palas y Pharo – “Mae brodyr Joseff wedi dod yma.” Roedd y Pharo a'i swyddogion yn hapus iawn.

17. A dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Dywed wrth dy frodyr: ‘Llwythwch eich anifeiliaid a mynd yn ôl i Canaan.

18. Wedyn dewch â'ch tad a'ch teuluoedd i gyd ata i. Cewch y tir gorau yn yr Aifft gen i. Cewch fwyta'r bwyd gorau sy'n y wlad.’

19. A dywed hyn wrthyn nhw hefyd, ‘Cymerwch wagenni o'r Aifft i'ch plant a'ch gwragedd a'ch tad gael teithio yn ôl ynddyn nhw.

20. Peidiwch poeni am eich dodrefn. Cewch y gorau o bopeth sydd yma yn yr Aifft.’”

21. Felly dyna wnaeth meibion Jacob. Rhoddodd Joseff wagenni iddyn nhw fel roedd y Pharo wedi gorchymyn, a bwyd ar gyfer y daith.

22. Rhoddodd set o ddillad newydd i bob un ohonyn nhw. Ond cafodd Benjamin bump set o ddillad a 300 darn o arian.

23. Anfonodd y rhain i'w dad hefyd: deg asyn wedi eu llwytho gyda chynnyrch gorau yr Aifft, deg o asennod wedi eu llwytho gyda ŷd, bara, a bwyd ar gyfer taith ei dad yn ôl.

24. Wedyn dyma fe'n anfon ei frodyr i ffwrdd. Wrth iddyn nhw adael dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Peidiwch dechrau poeni am ddim byd ar eich ffordd.”

25. Felly dyma nhw'n gadael yr Aifft ac yn dod at eu tad yng ngwlad Canaan.

26. “Mae Joseff yn dal yn fyw!” medden nhw wrtho. “Fe sy'n rheoli gwlad yr Aifft i gyd.” Bu bron i galon Jacob stopio. Doedd e ddim yn credu ei glustiau.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 45