11. Bydda i'n gwneud yn siŵr fod gynnoch chi ddigon o fwyd, ac na fyddwch chi'n brin o unrhyw beth. Achos mae'r newyn yn mynd i bara am bum mlynedd arall.’
12. Edrychwch. Gallwch chi a'm brawd Benjamin weld mai fi sy'n siarad â chi.
13. Rhaid i chi fynd i ddweud wrth dad am y statws sydd gen i yma yn yr Aifft, ac am bopeth dych chi wedi ei weld. Dewch â dad i lawr yma ar unwaith.”
14. Wedyn dyma fe'n taflu ei freichiau am Benjamin a'i gofleidio. Roedd y ddau ohonyn nhw yn crïo ym mreichiau ei gilydd.
15. Yna, yn dal i grïo, cusanodd ei frodyr eraill i gyd. A dyna pryd dechreuodd ei frodyr siarad gydag e.
16. Dyma'r newyddion yn cyrraedd palas y Pharo – “Mae brodyr Joseff wedi dod yma.” Roedd y Pharo a'i swyddogion yn hapus iawn.
17. A dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Dywed wrth dy frodyr: ‘Llwythwch eich anifeiliaid a mynd yn ôl i Canaan.
18. Wedyn dewch â'ch tad a'ch teuluoedd i gyd ata i. Cewch y tir gorau yn yr Aifft gen i. Cewch fwyta'r bwyd gorau sy'n y wlad.’
19. A dywed hyn wrthyn nhw hefyd, ‘Cymerwch wagenni o'r Aifft i'ch plant a'ch gwragedd a'ch tad gael teithio yn ôl ynddyn nhw.
20. Peidiwch poeni am eich dodrefn. Cewch y gorau o bopeth sydd yma yn yr Aifft.’”
21. Felly dyna wnaeth meibion Jacob. Rhoddodd Joseff wagenni iddyn nhw fel roedd y Pharo wedi gorchymyn, a bwyd ar gyfer y daith.
22. Rhoddodd set o ddillad newydd i bob un ohonyn nhw. Ond cafodd Benjamin bump set o ddillad a 300 darn o arian.
23. Anfonodd y rhain i'w dad hefyd: deg asyn wedi eu llwytho gyda chynnyrch gorau yr Aifft, deg o asennod wedi eu llwytho gyda ŷd, bara, a bwyd ar gyfer taith ei dad yn ôl.
24. Wedyn dyma fe'n anfon ei frodyr i ffwrdd. Wrth iddyn nhw adael dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Peidiwch dechrau poeni am ddim byd ar eich ffordd.”