Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 45:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Doedd Joseff ddim yn gallu rheoli ei deimladau o flaen pawb oedd o'i gwmpas. “Pawb allan!” meddai wrth ei weision. Felly wnaeth neb aros gydag e pan ddwedodd wrth ei frodyr pwy oedd e.

2. Ond roedd yn crïo mor uchel nes bod pawb drwy'r tŷ yn ei glywed. A daeth palas y Pharo i glywed am y peth.

3. A dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Joseff ydw i! Ydy dad yn dal yn fyw?” Ond allai ei frodyr ddweud dim. Roedden nhw'n sefyll yn fud o'i flaen.

4. A dyma Joseff yn gofyn, “Plîs dewch yn nes.” A dyma nhw'n mynd yn nes ato. “Joseff, eich brawd chi, ydw i,” meddai wrthyn nhw, “yr un wnaethoch chi ei werthu i'r Aifft.

5. Peidiwch ypsetio na beio'ch hunain am fy ngwerthu i. Duw anfonodd fi yma o'ch blaen chi i achub bywydau.

6. Dydy'r newyn yn y wlad yma ddim ond wedi para am ddwy flynedd hyd yn hyn. Mae pum mlynedd arall o newyn i ddod pan fydd y cnydau'n methu.

7. Mae Duw wedi fy anfon i yma o'ch blaen chi er mwyn i rai ohonoch chi gael byw, ac i chi gael eich achub mewn ffordd ryfeddol.

8. Nid chi wnaeth fy anfon i yma, ond Duw! Dw i'n gynghorydd i'r Pharo, yn rheoli ei balas, ac yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.

9. Brysiwch adre i ddweud wrth dad fod Joseff ei fab yn dweud, ‘Mae Duw wedi fy ngwneud i'n bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. Tyrd i lawr yma ata i ar unwaith.

10. Cei fyw yn ardal Gosen. Byddi di'n agos ata i. Tyrd a dy deulu i gyd, a dy anifeiliaid, a phopeth sydd gen ti.

11. Bydda i'n gwneud yn siŵr fod gynnoch chi ddigon o fwyd, ac na fyddwch chi'n brin o unrhyw beth. Achos mae'r newyn yn mynd i bara am bum mlynedd arall.’

12. Edrychwch. Gallwch chi a'm brawd Benjamin weld mai fi sy'n siarad â chi.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 45