A dyma Jwda'n ateb, “Beth allwn ni ei ddweud wrth ein meistr? Dim byd. Allwn ni ddim profi ein bod ni'n ddieuog. Mae Duw yn gwybod am y drwg wnaethon ni. Dy gaethweision di ydyn ni bellach. Ni a'r un oedd y gwpan ganddo.”