Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 43:18-32 beibl.net 2015 (BNET)

18. Roedd ganddyn nhw ofn pan aethpwyd â nhw i dŷ Joseff. “Mae wedi dod â ni yma o achos yr arian oedd wedi ei roi yn ein sachau y tro dwetha,” medden nhw. “Mae'n mynd i'n dal ni, ein gwneud ni'n gaethweision a chymryd yr asynnod.”

19. Felly dyma nhw'n mynd at brif swyddog tŷ Joseff wrth y drws, a dweud wrtho,

20. “Syr. Daethon ni i lawr y tro cyntaf i brynu ŷd.

21. Ar ein ffordd adre dyma ni'n stopio dros nos ac agor ein sachau, a dyna lle roedd arian pob un ohonon ni yng ngheg ei sach – roedd yr arian i gyd yno! Felly dŷn ni wedi dod â'r cwbl yn ôl.

22. A dŷn ni wedi dod â mwy o arian gyda ni i brynu bwyd. Does gynnon ni ddim syniad pwy roddodd yr arian yn ein sachau ni.”

23. “Mae popeth yn iawn,” meddai'r swyddog. “Peidiwch bod ag ofn. Mae'n rhaid bod eich Duw chi a'ch tad wedi rhoi'r arian yn ôl yn eich sachau. Gwnes i dderbyn eich arian chi.” A dyma fe'n dod â Simeon allan atyn nhw.

24. Ar ôl i'r swyddog fynd â nhw i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddyn nhw i olchi eu traed, a bwydo eu hasynnod nhw.

25. A dyma nhw'n paratoi'r anrheg ar gyfer pan fyddai Joseff yn dod ganol dydd. Roedden nhw wedi clywed eu bod nhw'n mynd i fwyta gydag e.

26. Pan ddaeth Joseff adre dyma nhw'n cyflwyno'r anrhegion iddo, ac yn ymgrymu o'i flaen.

27. Gofynnodd iddyn nhw sut oedden nhw. “Sut mae'ch tad yn cadw?” meddai. “Roeddech chi'n dweud ei fod mewn oed. Ydy e'n dal yn fyw?”

28. “Mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach,” medden nhw. A dyma nhw'n ymgrymu yn isel o'i flaen.

29. Yna dyma Joseff yn gweld ei frawd Benjamin, mab ei fam. “Ai hwn ydy'r brawd bach y sonioch chi amdano?” gofynnodd. Ac meddai wrth Benjamin, “Bendith Duw arnat ti fy machgen i.”

30. Ac roedd rhaid i Joseff frysio allan o'r ystafell. Roedd ei deimladau at ei frawd yn cael y gorau arno, ac roedd ar fin torri i lawr i grïo. Aeth i ystafell breifat ac wylo yno.

31. Ar ôl golchi ei wyneb daeth yn ôl allan. Gan reoli ei deimladau, dyma fe'n gorchymyn dod â'r bwyd o'u blaenau.

32. Roedd lleoedd ar wahân wedi eu gosod iddo fe, i'w frodyr, ac i'r Eifftiaid oedd yn bwyta gydag e. (Doedd Eifftiaid ddim yn gallu bwyta gyda Hebreaid. Byddai gwneud hynny yn tabŵ.)

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 43