Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 43:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. Ewch â dwbl yr arian gyda chi. Ewch â'r arian oedd yng ngheg eich sachau yn ôl. Camgymeriad oedd hynny mae'n siŵr.

13. Ac ewch â'ch brawd gyda chi. Ewch ar unwaith i weld y dyn.

14. A boed i'r Duw sy'n rheoli popeth wneud iddo fod yn garedig atoch chi, a gadael i Simeon a Benjamin ddod adre. Os oes rhaid i mi golli fy mhlant, rhaid i mi dderbyn hynny.”

15. Felly i ffwrdd â nhw gyda dwbl yr arian, yr anrheg, a Benjamin. Dyma nhw'n teithio i lawr i'r Aifft a sefyll o flaen Joseff.

16. Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda nhw dyma fe'n dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Dos â'r dynion i mewn i'r tŷ. Lladd anifail i ginio. Byddan nhw'n bwyta gyda mi ganol dydd.”

17. Felly dyma'r gwas yn gwneud hynny ac yn mynd â nhw i dŷ Joseff.

18. Roedd ganddyn nhw ofn pan aethpwyd â nhw i dŷ Joseff. “Mae wedi dod â ni yma o achos yr arian oedd wedi ei roi yn ein sachau y tro dwetha,” medden nhw. “Mae'n mynd i'n dal ni, ein gwneud ni'n gaethweision a chymryd yr asynnod.”

19. Felly dyma nhw'n mynd at brif swyddog tŷ Joseff wrth y drws, a dweud wrtho,

20. “Syr. Daethon ni i lawr y tro cyntaf i brynu ŷd.

21. Ar ein ffordd adre dyma ni'n stopio dros nos ac agor ein sachau, a dyna lle roedd arian pob un ohonon ni yng ngheg ei sach – roedd yr arian i gyd yno! Felly dŷn ni wedi dod â'r cwbl yn ôl.

22. A dŷn ni wedi dod â mwy o arian gyda ni i brynu bwyd. Does gynnon ni ddim syniad pwy roddodd yr arian yn ein sachau ni.”

23. “Mae popeth yn iawn,” meddai'r swyddog. “Peidiwch bod ag ofn. Mae'n rhaid bod eich Duw chi a'ch tad wedi rhoi'r arian yn ôl yn eich sachau. Gwnes i dderbyn eich arian chi.” A dyma fe'n dod â Simeon allan atyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 43