10. Petaen ni heb lusgo'n traed bydden ni wedi bod yno ac yn ôl ddwywaith!”
11. Felly dyma Israel, eu tad, yn dweud wrthyn nhw, “O'r gorau, ond gwnewch hyn: Ewch â peth o gynnyrch gorau'r wlad yn eich paciau, yn anrheg i'r dyn – ychydig o falm a mêl, gwm pêr, myrr, cnau pistasio ac almon.
12. Ewch â dwbl yr arian gyda chi. Ewch â'r arian oedd yng ngheg eich sachau yn ôl. Camgymeriad oedd hynny mae'n siŵr.
13. Ac ewch â'ch brawd gyda chi. Ewch ar unwaith i weld y dyn.
14. A boed i'r Duw sy'n rheoli popeth wneud iddo fod yn garedig atoch chi, a gadael i Simeon a Benjamin ddod adre. Os oes rhaid i mi golli fy mhlant, rhaid i mi dderbyn hynny.”
15. Felly i ffwrdd â nhw gyda dwbl yr arian, yr anrheg, a Benjamin. Dyma nhw'n teithio i lawr i'r Aifft a sefyll o flaen Joseff.
16. Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda nhw dyma fe'n dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Dos â'r dynion i mewn i'r tŷ. Lladd anifail i ginio. Byddan nhw'n bwyta gyda mi ganol dydd.”
17. Felly dyma'r gwas yn gwneud hynny ac yn mynd â nhw i dŷ Joseff.
18. Roedd ganddyn nhw ofn pan aethpwyd â nhw i dŷ Joseff. “Mae wedi dod â ni yma o achos yr arian oedd wedi ei roi yn ein sachau y tro dwetha,” medden nhw. “Mae'n mynd i'n dal ni, ein gwneud ni'n gaethweision a chymryd yr asynnod.”
19. Felly dyma nhw'n mynd at brif swyddog tŷ Joseff wrth y drws, a dweud wrtho,
20. “Syr. Daethon ni i lawr y tro cyntaf i brynu ŷd.
21. Ar ein ffordd adre dyma ni'n stopio dros nos ac agor ein sachau, a dyna lle roedd arian pob un ohonon ni yng ngheg ei sach – roedd yr arian i gyd yno! Felly dŷn ni wedi dod â'r cwbl yn ôl.
22. A dŷn ni wedi dod â mwy o arian gyda ni i brynu bwyd. Does gynnon ni ddim syniad pwy roddodd yr arian yn ein sachau ni.”