Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 43:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd y newyn yn mynd yn waeth yn y wlad.

2. Pan oedd yr ŷd ddaethon nhw o'r Aifft wedi gorffen, dyma Jacob yn dweud wrth ei feibion, “Ewch yn ôl i brynu ychydig mwy o fwyd.”

3. Ond dyma Jwda'n dweud wrtho, “Roedd y dyn wedi'n rhybuddio ni. ‘Gewch chi ddim dod i'm gweld i oni bai fod eich brawd gyda chi.’

4. Os gwnei di anfon Benjamin gyda ni, awn ni i lawr i brynu bwyd i ti.

5. Ond os wyt ti ddim yn fodlon iddo ddod, wnawn ni ddim mynd chwaith. Dwedodd y dyn, ‘Gewch chi ddim dod i'm gweld i oni bai fod eich brawd gyda chi.’”

6. “Pam wnaethoch chi beth mor wirion â dweud wrth y dyn fod gynnoch chi frawd arall?” meddai Israel.

7. “Roedd y dyn yn ein holi ni'n fanwl amdanon ni'n hunain a'n teuluoedd,” medden nhw. “Roedd yn gofyn, ‘Ydy'ch tad chi yn dal yn fyw? Oes gynnoch chi frawd arall?’ Wnaethon ni ddim byd ond ateb ei gwestiynau. Sut oedden ni i fod i wybod y byddai'n dweud, ‘Dowch â'ch brawd i lawr yma’?”

8. Yna dyma Jwda yn dweud wrth ei dad, Israel, “Anfon y bachgen gyda fi. Gallwn ni fynd yn syth, er mwyn i ni i gyd gael byw a pheidio marw – ti a ninnau a'n plant.

9. Ar fy llw, bydda i'n edrych ar ei ôl e. Cei di fy nal i'n gyfrifol amdano. Os na ddof i ag e yn ôl a'i osod e yma o dy flaen di, bydda i'n euog yn dy olwg di am byth.

10. Petaen ni heb lusgo'n traed bydden ni wedi bod yno ac yn ôl ddwywaith!”

11. Felly dyma Israel, eu tad, yn dweud wrthyn nhw, “O'r gorau, ond gwnewch hyn: Ewch â peth o gynnyrch gorau'r wlad yn eich paciau, yn anrheg i'r dyn – ychydig o falm a mêl, gwm pêr, myrr, cnau pistasio ac almon.

12. Ewch â dwbl yr arian gyda chi. Ewch â'r arian oedd yng ngheg eich sachau yn ôl. Camgymeriad oedd hynny mae'n siŵr.

13. Ac ewch â'ch brawd gyda chi. Ewch ar unwaith i weld y dyn.

14. A boed i'r Duw sy'n rheoli popeth wneud iddo fod yn garedig atoch chi, a gadael i Simeon a Benjamin ddod adre. Os oes rhaid i mi golli fy mhlant, rhaid i mi dderbyn hynny.”

15. Felly i ffwrdd â nhw gyda dwbl yr arian, yr anrheg, a Benjamin. Dyma nhw'n teithio i lawr i'r Aifft a sefyll o flaen Joseff.

16. Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda nhw dyma fe'n dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Dos â'r dynion i mewn i'r tŷ. Lladd anifail i ginio. Byddan nhw'n bwyta gyda mi ganol dydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 43