Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 42:22-38 beibl.net 2015 (BNET)

22. “Ddwedais i wrthoch chi am beidio gwneud niwed i'r bachgen, ond wnaethoch chi ddim gwrando,” meddai Reuben. “A nawr mae'n rhaid i ni dalu am dywallt ei waed!”

23. (Doedden nhw ddim yn sylweddoli fod Joseff yn deall popeth roedden nhw'n ei ddweud. Roedd wedi bod yn siarad â nhw drwy gyfieithydd.)

24. Dyma Joseff yn eu gadael nhw ac yn torri i lawr i grïo. Pan ddaeth yn ôl i siarad â nhw eto, dyma fe'n dewis Simeon i'w gadw yn y ddalfa, a gorchymyn ei rwymo yn y fan a'r lle.

25. Wedyn dyma Joseff yn gorchymyn llenwi eu sachau ag ŷd, rhoi arian pob un ohonyn nhw yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddyn nhw ar gyfer y daith. A dyna wnaed.

26. Dyma'r brodyr yn llwytho eu hasynnod a mynd.

27. Pan wnaethon nhw stopio i aros dros nos, agorodd un ohonyn nhw ei sach i fwydo'i asyn. A dyna lle roedd ei arian yng ngheg y sach.

28. Aeth i ddweud wrth ei frodyr, “Mae fy arian wedi cael ei roi yn ôl. Roedd yn y sach!” Roedden nhw wedi dychryn go iawn. “Be mae Duw wedi ei wneud?” medden nhw.

29. Pan gyrhaeddon nhw adre i wlad Canaan at eu tad Jacob, dyma nhw'n dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd.

30. “Roedd llywodraethwr y wlad yn gas gyda ni ac yn ein cyhuddo ni o fod yn ysbiwyr.

31. Dwedon ni wrtho ‘Dŷn ni'n ddynion gonest, dim ysbiwyr.

32. Teulu o ddeuddeg brawd, meibion i'r un tad. Mae un brawd wedi marw, ac mae'r ifancaf adre gyda'n tad yng ngwlad Canaan.’

33. A dyma'r dyn oedd yn rheoli'r wlad yn dweud fel hyn, ‘Dyma sut fydda i'n gwybod os ydych chi'n ddynion gonest. Rhaid i un ohonoch chi aros yma gyda mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd. Ewch ag ŷd i fwydo'ch teuluoedd.

34. Wedyn dewch â'ch brawd bach yn ôl yma ata i. Bydda i'n gwybod wedyn eich bod chi'n ddynion gonest, ac nid ysbiwyr. Wedyn gwna i ryddhau'r brawd arall, a byddwch yn rhydd i brynu a gwerthu yma.’”

35. Wedyn aethon nhw ati i wagio eu sachau. A dyna lle roedd cod arian pob un yn ei sach. Pan welon nhw a'u tad y codau arian roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.

36. “Dych chi'n fy ngwneud i'n ddi-blant fel hyn,” meddai Jacob. “Mae Joseff wedi mynd. Mae Simeon wedi mynd. A nawr dych chi am gymryd Benjamin oddi arna i! Mae popeth yn fy erbyn i.”

37. Yna dyma Reuben yn dweud wrth ei dad, “Os gwna i ddim dod ag e'n ôl atat ti, cei ladd fy nau fab i. Gad i mi fod yn gyfrifol amdano. Dof i ag e'n ôl.”

38. Ond meddai Jacob, “Na, dydy fy mab i ddim yn mynd gyda chi. Mae ei frawd wedi marw, a dim ond fe sydd ar ôl. Dw i'n hen ddyn. Petai rhywbeth yn digwydd iddo ar y daith byddai'r golled yn ddigon i'm gyrru i'r bedd.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 42