16. Caiff un ohonoch chi fynd i nôl eich brawd tra mae'r lleill yn aros yn y carchar. Cewch gyfle i brofi eich bod yn dweud y gwir. Os nad ydych chi'n dweud y gwir mae'n amlwg mai ysbiwyr ydych chi.”
17. A dyma fe'n eu cadw nhw yn y ddalfa am dri diwrnod.
18. Ar y trydydd diwrnod dyma Joseff yn dweud wrthyn nhw, “Gwnewch beth dw i'n ei ofyn a chewch fyw. Dw i'n ddyn sy'n addoli Duw.
19. Os ydych chi wir yn ddynion gonest, bydd rhaid i un ohonoch chi aros yma yn y carchar, a chaiff y lleill ohonoch chi fynd ag ŷd yn ôl i'ch teuluoedd.
20. Ond rhaid i chi ddod â'ch brawd ifancaf yma ata i. Wedyn bydda i'n gwybod eich bod chi'n dweud y gwir, a fydd dim rhaid i chi farw.” A dyma nhw'n cytuno.
21. Ond medden nhw wrth ei gilydd, “Dŷn ni'n talu'r pris am beth wnaethon ni i'n brawd. Roedden ni'n gweld yn iawn gymaint roedd e wedi dychryn, pan oedd yn pledio am drugaredd. Ond wnaethon ni ddim gwrando. Dyna pam mae hyn i gyd wedi digwydd i ni.”
22. “Ddwedais i wrthoch chi am beidio gwneud niwed i'r bachgen, ond wnaethoch chi ddim gwrando,” meddai Reuben. “A nawr mae'n rhaid i ni dalu am dywallt ei waed!”
23. (Doedden nhw ddim yn sylweddoli fod Joseff yn deall popeth roedden nhw'n ei ddweud. Roedd wedi bod yn siarad â nhw drwy gyfieithydd.)
24. Dyma Joseff yn eu gadael nhw ac yn torri i lawr i grïo. Pan ddaeth yn ôl i siarad â nhw eto, dyma fe'n dewis Simeon i'w gadw yn y ddalfa, a gorchymyn ei rwymo yn y fan a'r lle.
25. Wedyn dyma Joseff yn gorchymyn llenwi eu sachau ag ŷd, rhoi arian pob un ohonyn nhw yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddyn nhw ar gyfer y daith. A dyna wnaed.
26. Dyma'r brodyr yn llwytho eu hasynnod a mynd.