Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 42:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Clywodd Jacob fod ŷd ar werth yn yr Aifft. “Pam dych chi'n sefyllian yma yn gwneud dim byd?” meddai wrth ei feibion.

2. “Dw i wedi clywed fod ŷd yn yr Aifft. Ewch i lawr yno i brynu peth i ni er mwyn i ni gael byw yn lle marw.”

3. Felly dyma ddeg o frodyr Joseff yn mynd i lawr i'r Aifft i brynu ŷd.

4. Ond wnaeth Jacob ddim anfon Benjamin, brawd Joseff, gyda'r brodyr eraill. Roedd arno ofn i rywbeth ddigwydd iddo.

5. Felly aeth meibion Israel gyda phawb arall oedd yn mynd i lawr i'r Aifft i brynu ŷd. Roedd y newyn wedi taro gwlad Canaan yn drwm.

6. Joseff oedd yn rheoli gwlad yr Aifft, a fe oedd yn gwerthu'r ŷd i bobl. A daeth brodyr Joseff yno ac yn ymgrymu o'i flaen.

7. Dyma Joseff yn eu nabod nhw pan welodd nhw. Ond roedd yn ymddwyn fel dyn dieithr o'u blaenau nhw a dechreuodd siarad yn gas gyda nhw. “O ble dych chi'n dod?” meddai. A dyma nhw'n ateb, “O wlad Canaan. Dŷn ni wedi dod yma i brynu bwyd.”

8. Er bod Joseff wedi eu nabod nhw, doedden nhw ddim wedi ei nabod e.

9. A dyma Joseff yn cofio'r breuddwydion roedd wedi eu cael amdanyn nhw. Ac meddai wrthyn nhw, “Ysbiwyr ydych chi! Dych chi wedi dod i weld lle fyddai'n hawdd i chi ymosod ar y wlad.”

10. “Na, syr,” medden nhw. “Mae dy weision wedi dod yma i brynu bwyd.

11. Dŷn ni i gyd yn feibion i'r un dyn, ac yn ddynion gonest. Dŷn ni erioed wedi bod yn ysbiwyr.”

12. “Na,” meddai Joseff. “Dych chi wedi dod i weld lle fyddai'n hawdd i chi ymosod ar y wlad!”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 42