Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 41:34-45 beibl.net 2015 (BNET)

34. Dylai benodi swyddogion ar hyd a lled y wlad, i gasglu un rhan o bump o gynnyrch y tir yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd.

35. Dylen nhw gasglu'r cnydau yma o'r blynyddoedd da. A dylai'r Pharo roi awdurdod iddyn nhw storio'r grawn fel bod bwyd i'w gael yn y dinasoedd. A bydd rhaid cael milwyr i'w warchod.

36. Dylai'r bwyd yma fod wrth gefn ar gyfer y saith mlynedd o newyn sy'n mynd i daro gwlad yr Aifft. Wedyn fydd y newyn ddim yn rhoi diwedd llwyr ar y wlad.”

37. Roedd y cyngor roddodd Joseff yn gwneud sens i'r Pharo a'i swyddogion.

38. A dwedodd y Pharo wrth ei swyddogion, “Ydyn ni'n mynd i ddod o hyd i unrhyw un tebyg i'r dyn yma? Mae Ysbryd Duw ynddo.”

39. Felly dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Gan fod Duw wedi dangos hyn i gyd i ti, maen amlwg fod neb sy'n fwy galluog a doeth na ti.

40. Dw i'n rhoi'r gwaith o reoli'r cwbl i ti. Bydd rhaid i'm pobl i gyd wneud fel rwyt ti'n dweud. Dim ond y ffaith mai fi ydy'r brenin fydd yn fy ngwneud i'n bwysicach na ti.”

41. Yna dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Dw i'n dy osod di yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.”

42. Tynnodd ei sêl-fodrwy oddi ar ei fys a'i rhoi hi ar fys Joseff. Wedyn dyma fe'n arwisgo Joseff â gŵn o liain main drud a rhoi cadwyn aur am ei wddf.

43. Gwnaeth iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai yn gweiddi o'i flaen “I lawr ar eich gliniau!”Felly dyma'r Pharo yn ei wneud yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.

44. Dwedodd y Pharo wrtho hefyd, “Fi ydy'r Pharo. Ond fydd neb yng ngwlad yr Aifft yn cael symud bys bach heb dy ganiatâd di.”

45. Rhoddodd y Pharo yr enw Saffnat-paneach i Joseff, a rhoi Asnath, merch Potiffera offeiriad Heliopolis yn wraig iddo. A dyma Joseff yn mynd ati i reoli gwlad yr Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 41