Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 41:22-37 beibl.net 2015 (BNET)

22. “Es i yn ôl i gysgu, a chefais freuddwyd arall. Gwelais saith tywysen o rawn oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn.

23. Wedyn dyma saith tywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael, wedi gwywo ac wedi eu crino gan wynt y dwyrain.

24. A dyma'r tywysennau gwael yn llyncu'r saith tywysen iach. Ond pan ddywedais hyn wrth y swynwyr, doedd neb ohonyn nhw'n gallu dweud yr ystyr wrtho i.”

25. Yna dyma Joseff yn dweud wrth y Pharo, “Yr un ystyr sydd i'r ddwy freuddwyd. Mae Duw wedi dangos i'r Pharo beth mae ar fin ei wneud.

26. Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg sy'n edrych yn dda, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen iach. Un ystyr sydd i'r ddwy freuddwyd.

27. Saith mlynedd ydy'r saith o wartheg tenau, gwael, a saith mlynedd ydy'r saith dywysen wag wedi eu crino gan wynt y dwyrain. Maen nhw'n cynrychioli saith mlynedd o newyn.

28. Fel dw i newydd ddweud: mae Duw wedi dangos i'r Pharo beth mae ar fin ei wneud.

29. Mae saith mlynedd yn dod pan fydd digonedd o fwyd yng ngwlad yr Aifft.

30. Ond bydd saith mlynedd o newyn yn dilyn, a fydd dim arwydd yn y wlad fod cyfnod o ddigonedd wedi bod. Bydd y newyn yn difetha'r wlad.

31. Fydd dim sôn am y blynyddoedd llewyrchus am fod y newyn mor ddifrifol.

32. Cafodd y Pharo y freuddwyd ddwywaith am fod Duw am ddangos fod y peth yn siŵr o ddigwydd. Mae Duw yn mynd i wneud iddo ddigwydd ar unwaith.

33. Felly dylai'r Pharo ddewis dyn galluog a doeth i reoli gwlad yr Aifft.

34. Dylai benodi swyddogion ar hyd a lled y wlad, i gasglu un rhan o bump o gynnyrch y tir yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd.

35. Dylen nhw gasglu'r cnydau yma o'r blynyddoedd da. A dylai'r Pharo roi awdurdod iddyn nhw storio'r grawn fel bod bwyd i'w gael yn y dinasoedd. A bydd rhaid cael milwyr i'w warchod.

36. Dylai'r bwyd yma fod wrth gefn ar gyfer y saith mlynedd o newyn sy'n mynd i daro gwlad yr Aifft. Wedyn fydd y newyn ddim yn rhoi diwedd llwyr ar y wlad.”

37. Roedd y cyngor roddodd Joseff yn gwneud sens i'r Pharo a'i swyddogion.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 41