Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 39:13-23 beibl.net 2015 (BNET)

13. Pan welodd hi ei fod wedi gadael ei got

14. dyma hi'n galw ar weision y tŷ a dweud, “Edrychwch, mae fy ngŵr wedi dod â'r Hebrëwr aton ni i'n cam-drin ni. Ceisiodd fy nhreisio i, ond dyma fi'n sgrechian.

15. Pan glywodd fi'n gweiddi a sgrechian gadawodd ei got wrth fy ymyl a dianc.”

16. Cadwodd y dilledyn wrth ei hymyl nes i Potiffar ddod adre.

17. Wedyn dwedodd yr un stori wrtho fe. “Daeth yr Hebrëwr yna ddoist ti ag e yma i mewn ata i a cheisio fy ngham-drin i,

18. ond pan ddechreuais i sgrechian, dyma fe'n gadael ei got wrth fy ymyl a dianc.”

19. Pan glywodd y meistr ei wraig yn dweud sut oedd Joseff wedi ei thrin hi, roedd e'n gynddeiriog.

20. Taflodd Joseff i'r carchar lle roedd carcharorion y brenin yn cael eu cadw, a dyna lle'r arhosodd.

21. Ond roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff yno hefyd, ac yn garedig iawn ato. Gwnaeth i warden y carchar ei hoffi.

22. Gwnaeth y warden Joseff yn gyfrifol am y carcharorion eraill. Joseff oedd yn gyfrifol am beth bynnag oedd yn digwydd yno.

23. Doedd y warden yn gorfod poeni am ddim byd oedd dan ofal Joseff, am fod yr ARGLWYDD gydag e. Beth bynnag roedd Joseff yn ei wneud, roedd yr ARGLWYDD yn ei lwyddo.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 39