Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 39:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Cafodd Joseff ei gymryd i lawr i'r Aifft gan yr Ismaeliaid. A dyma un o swyddogion y Pharo, sef Potiffar, capten y gwarchodlu, yn ei brynu e ganddyn nhw.

2. Roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff. Roedd pethau'n mynd yn dda iddo wrth iddo weithio yn nhŷ ei feistr yn yr Aifft.

3. Sylwodd ei feistr fod yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff a bod popeth roedd e'n ei wneud yn llwyddo.

4. Felly am fod Joseff yn ei blesio, gwnaeth Potiffar e'n was personol iddo'i hun. Joseff oedd yn rhedeg popeth oedd yn digwydd yn y tŷ, am fod Potiffar wedi rhoi'r cwbl oedd ganddo yn ei ofal.

5. Ac o'r diwrnod y cafodd Joseff ei benodi i'r swydd roedd yr ARGLWYDD yn bendithio tŷ'r Eifftiwr. Roedd yn gwneud hyn er mwyn Joseff. Roedd popeth yn mynd yn dda i Potiffar, yn ei dŷ a'i dir.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 39