Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 37:19-29 beibl.net 2015 (BNET)

19. “Edrychwch, mae'r breuddwydiwr mawr yn dod!” medden nhw.

20. “Gadewch i ni ei ladd. Gallwn ei daflu i mewn i bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ladd. Cawn weld beth ddaw o'i freuddwydion wedyn!”

21. Dyma Reuben yn digwydd clywed beth ddwedon nhw, a llwyddodd i achub bywyd Joseff. “Na, gadewch i ni beidio â'i ladd,”

22. meddai wrthyn nhw. “Peidiwch tywallt gwaed. Taflwch e i mewn i'r pydew yma yn yr anialwch, ond peidiwch gwneud niwed iddo.” (Bwriad Reuben oedd achub Joseff, a mynd ag e yn ôl at ei dad.)

23. Felly pan ddaeth Joseff at ei frodyr, dyma nhw'n tynnu ei got oddi arno (y got sbesial oedd e'n ei gwisgo).

24. Ac wedyn dyma nhw'n ei daflu i mewn i bydew. (Roedd y pydew yn wag – doedd dim dŵr ynddo.)

25. Pan oedden nhw'n eistedd i lawr i fwyta, dyma nhw'n gweld carafan o Ismaeliaid yn teithio o gyfeiriad Gilead. Roedd ganddyn nhw gamelod yn cario gwm balm, a myrr i lawr i'r Aifft.

26. A dyma Jwda'n dweud wrth ei frodyr, “Dŷn ni'n ennill dim trwy ladd ein brawd a cheisio cuddio'r ffaith.

27. Dewch, gadewch i ni ei werthu e i'r Ismaeliaid acw. Ddylen ni ddim gwneud niwed iddo. Wedi'r cwbl mae yn frawd i ni.” A dyma'r brodyr yn cytuno.

28. Felly pan ddaeth y masnachwyr o Midian heibio, dyma nhw'n tynnu Joseff allan o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am 20 darn o arian. A dyma'r Ismaeliaid yn mynd â Joseff gyda nhw i'r Aifft.

29. Yn nes ymlaen dyma Reuben yn dod yn ôl at y pydew. Pan welodd fod Joseff ddim yno dyma fe'n rhwygo ei ddillad.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 37