Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 37:11-25 beibl.net 2015 (BNET)

11. Roedd ei frodyr yn genfigennus ohono. Ond roedd ei dad yn cadw'r peth mewn cof.

12. Roedd ei frodyr wedi mynd ag anifeiliaid eu tad i bori wrth ymyl Sichem.

13. A dyma Israel yn dweud wrth Joseff, “Mae dy frodyr wedi mynd â'r praidd i bori i Sichem. Dw i eisiau i ti fynd yno i'w gweld nhw.” “Iawn, dw i'n barod,” meddai Joseff.

14. “Dos i weld sut maen nhw, a sut mae'r praidd,” meddai ei dad wrtho. “Wedyn tyrd yn ôl i ddweud wrtho i.” Felly dyma Joseff yn mynd o ddyffryn Hebron i Sichem.Pan gyrhaeddodd Sichem

15. dyma ryw ddyn yn dod ar ei draws yn crwydro yn y wlad. Gofynnodd y dyn iddo, “Am beth ti'n chwilio?”

16. “Dw i'n edrych am fy mrodyr,” meddai Joseff. “Alli di ddweud wrtho i ble maen nhw wedi mynd â'r praidd i bori?”

17. A dyma'r dyn yn ateb, “Maen nhw wedi gadael yr ardal yma. Clywais nhw'n dweud eu bod yn mynd i Dothan.” Felly dyma Joseff yn mynd ar eu holau, ac yn dod o hyd iddyn nhw yn Dothan.

18. Roedden nhw wedi ei weld yn dod o bell. Cyn iddo gyrraedd dyma nhw'n cynllwynio i'w ladd.

19. “Edrychwch, mae'r breuddwydiwr mawr yn dod!” medden nhw.

20. “Gadewch i ni ei ladd. Gallwn ei daflu i mewn i bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ladd. Cawn weld beth ddaw o'i freuddwydion wedyn!”

21. Dyma Reuben yn digwydd clywed beth ddwedon nhw, a llwyddodd i achub bywyd Joseff. “Na, gadewch i ni beidio â'i ladd,”

22. meddai wrthyn nhw. “Peidiwch tywallt gwaed. Taflwch e i mewn i'r pydew yma yn yr anialwch, ond peidiwch gwneud niwed iddo.” (Bwriad Reuben oedd achub Joseff, a mynd ag e yn ôl at ei dad.)

23. Felly pan ddaeth Joseff at ei frodyr, dyma nhw'n tynnu ei got oddi arno (y got sbesial oedd e'n ei gwisgo).

24. Ac wedyn dyma nhw'n ei daflu i mewn i bydew. (Roedd y pydew yn wag – doedd dim dŵr ynddo.)

25. Pan oedden nhw'n eistedd i lawr i fwyta, dyma nhw'n gweld carafan o Ismaeliaid yn teithio o gyfeiriad Gilead. Roedd ganddyn nhw gamelod yn cario gwm balm, a myrr i lawr i'r Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 37