Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 37:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma Jacob yn setlo yn y rhan o wlad Canaan roedd ei dad wedi ymfudo iddi.

2. Dyma hanes teulu Jacob:Pan oedd Joseff yn 17 oed, roedd gyda'i frodyr yn gofalu am y preiddiau. Llanc ifanc oedd e, yn gweithio gyda meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad. Ond roedd yn cario straeon am ei frodyr i'w dad.

3. Roedd Israel yn caru Joseff fwy na'i feibion eraill i gyd, am fod Joseff wedi cael ei eni pan oedd e'n hen ddyn. Ac roedd wedi gwneud côt sbesial iddo.

4. Ond roedd ei frodyr yn ei gasáu, am fod eu tad yn caru Joseff fwy na nhw. Doedden nhw ddim yn gallu dweud run gair caredig wrtho.

5. Ond wedyn cafodd Joseff freuddwyd. Pan ddwedodd wrth ei frodyr am y freuddwyd roedden nhw'n ei gasáu e fwy fyth.

6. “Gwrandwch ar y freuddwyd yma ges i,” meddai wrthyn nhw.

7. “Roedden ni i gyd wrthi'n rhwymo ysgubau mewn cae. Yn sydyn dyma fy ysgub i yn codi ac yn sefyll yn syth. A dyma'ch ysgubau chi yn casglu o'i chwmpas ac yn ymgrymu iddi!”

8. “Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n frenin neu rywbeth?” medden nhw. “Wyt ti'n mynd i deyrnasu droson ni?” Ac roedden nhw'n ei gasáu e fwy fyth o achos y freuddwyd a beth ddwedodd e wrthyn nhw.

9. Wedyn cafodd Joseff freuddwyd arall, a dwedodd am honno wrth ei frodyr hefyd. “Dw i wedi cael breuddwyd arall,” meddai. “Roedd yr haul a'r lleuad ac un deg un o sêr yn ymgrymu o'm blaen i.”

10. Ond pan ddwedodd wrth ei dad a'i frodyr am y freuddwyd, dyma'i dad yn dweud y drefn wrtho. “Sut fath o freuddwyd ydy honna?” meddai wrtho. “Wyt ti'n meddwl fy mod i a dy fam a dy frodyr yn mynd i ddod ac ymgrymu o dy flaen di?”

11. Roedd ei frodyr yn genfigennus ohono. Ond roedd ei dad yn cadw'r peth mewn cof.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 37