Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 36:34-42 beibl.net 2015 (BNET)

34. Ar ôl i Iobab farw, daeth Chwsham o ardal Teman yn frenin yn ei le.

35. Ar ôl i Chwsham farw, daeth Hadad fab Bedad o dre Afith yn frenin yn ei le. Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.

36. Ar ôl i Hadad farw, daeth Samla o Masreca yn frenin yn ei le.

37. Ar ôl i Samla farw, daeth Saul o Rehoboth-ger-yr-Afon yn frenin yn ei le.

38. Ar ôl i Saul farw, daeth Baal-chanan fab Achbor yn frenin yn ei le.

39. Wedyn ar ôl i Baal-chanan fab Achbor farw daeth Hadar o dre Paw yn frenin yn ei le. Enw gwraig Hadar oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab).

40. Dyma enwau arweinwyr llwythau Esau – pob llwyth yn byw mewn ardal arbennig o'r wlad:Timna, Alfa, Ietheth,

41. Oholibama, Ela, Pinon,

42. Cenas, Teman, Miftsar,

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 36