1. Dyma hanes teulu Esau (sef Edom):
2. Roedd Esau wedi priodi merched o Canaan: Ada (merch Elon yr Hethiad), Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon yr Hefiad),
3. a Basemath (merch Ishmael a chwaer Nebaioth).
4. Cafodd Ada fab i Esau, sef Eliffas.Cafodd Basemath fab, sef Reuel,
5. a cafodd Oholibama dri o fechgyn, sef Iewsh, Ialam a Cora.Dyma enwau'r meibion gafodd Esau pan oedd yng ngwlad Canaan.
6. Symudodd Esau i ffwrdd i wlad oedd yn reit bell oddi wrth ei frawd Jacob. Aeth â'i wragedd gydag e, a'i feibion a'i ferched, a phawb arall oedd gydag e, a'i anifeiliaid a'r holl eiddo oedd wedi ei gasglu pan oedd yn byw yng ngwlad Canaan.