Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 32:17-28 beibl.net 2015 (BNET)

17. Ac aeth ymlaen i ddweud wrth y gwas fyddai'n arwain y grŵp cyntaf, “Pan fydd fy mrawd Esau yn dy gyfarfod di ac yn gofyn, ‘I bwy wyt ti'n perthyn? Ble wyt ti'n mynd? Pwy biau'r anifeiliaid yma?’

18. dywed wrtho, ‘Dy was Jacob piau nhw. Mae'n eu hanfon nhw yn anrheg i ti syr. Mae Jacob ei hun ar ei ffordd tu ôl i ni.’”

19. Dwedodd yr un peth wrth yr ail was a'r trydydd, a'r gweision oedd yn dilyn yr anifeiliaid. “Dwedwch chi'r un peth wrth Esau. A cofiwch ddweud hefyd, ‘Mae dy was Jacob ar ei ffordd tu ôl i ni.’”

20. Roedd Jacob yn gobeithio y byddai'r anrhegion yn ei dawelu cyn i'r ddau gyfarfod wyneb yn wyneb. Roedd yn gobeithio y byddai Esau yn ei dderbyn wedyn.

21. Felly cafodd yr anifeiliaid eu hanfon drosodd o'i flaen. Ond dyma Jacob yn aros yn y gwersyll y noson honno.

22. Yn ystod y nos dyma Jacob yn codi a chroesi rhyd Jabboc gyda'i ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un deg un mab.

23. Ar ôl mynd â nhw ar draws dyma fe'n anfon pawb a phopeth arall oedd ganddo drosodd.

24. Roedd Jacob ar ei ben ei hun. A dyma ddyn yn dod ac ymladd gydag e nes iddi wawrio.

25. Pan welodd y dyn ei fod e ddim yn ennill, dyma fe'n taro Jacob yn ei glun a'i rhoi o'i lle.

26. “Gad i mi fynd,” meddai'r dyn, “mae hi'n dechrau gwawrio.” “Na!” meddai Jacob, “wna i ddim gadael i ti fynd nes i ti fy mendithio i.”

27. Felly dyma'r dyn yn gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Jacob,” meddai.

28. A dyma'r dyn yn dweud wrtho, “Fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di. Am dy fod ti wedi ymladd gyda Duw a phobl, ac wedi ennill.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 32