Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 31:24-35 beibl.net 2015 (BNET)

24. Ond dyma Duw yn siarad â Laban yr Aramead mewn breuddwyd y noson honno. Dwedodd wrtho, “Paid ti dweud dim byd i fygwth Jacob.”

25. Roedd Jacob wedi codi gwersyll ym mryniau Gilead pan ddaliodd Laban i fyny ag e. A dyma Laban a'i berthnasau yn gwersylla yno hefyd.

26. “Beth rwyt ti wedi'i wneud?” meddai Laban wrth Jacob. “Ti wedi fy nhwyllo i. Ti wedi cymryd fy merched i ffwrdd fel tasen nhw'n garcharorion rhyfel!

27. Pam wnest ti redeg i ffwrdd yn ddistaw bach heb i mi wybod? Pam wnest ti ddim dweud wrtho i? Byddwn i wedi trefnu parti i ffarwelio'n iawn, gyda chanu a dawnsio a cherddoriaeth.

28. Wnest ti ddim hyd yn oed roi cyfle i mi roi cusan ffarwél i'm merched a'u plant. Ti wedi gwneud peth hollol wirion.

29. Gallwn i wneud drwg i ti, ond dyma'r Duw mae dy dad yn ei addoli yn siarad â mi neithiwr. Dwedodd wrtho i, ‘Paid dweud dim byd i fygwth Jacob.’

30. Dw i'n derbyn fod gen ti hiraeth go iawn am dy dad a'i deulu, ond pam roedd rhaid i ti ddwyn fy nuwiau?”

31. A dyma Jacob yn ei ateb, “Wnes i redeg i ffwrdd am fod arna i ofn. Roeddwn i'n meddwl y byddet ti'n cymryd dy ferched oddi arna i.

32. Bydd pwy bynnag sydd wedi cymryd dy dduwiau di yn marw! Dw i'n dweud hyn o flaen ein perthnasau ni i gyd. Dangos i mi beth sydd piau ti, a'i gymryd.” (Doedd Jacob ddim yn gwybod fod Rachel wedi eu dwyn nhw.)

33. Felly dyma Laban yn mynd i bebyll Jacob, Lea, a'r ddwy forwyn, ond methu dod o hyd i'r eilun-ddelwau. Daeth allan o babell Lea a mynd i babell Rachel.

34. (Ond roedd Rachel wedi cymryd yr eilun-ddelwau a'u rhoi nhw yn y bag cyfrwy ar ei chamel, ac yna eistedd arnyn nhw.) Dyma Laban yn chwilio drwy'r babell i gyd, ond methu dod o hyd iddyn nhw.

35. A dyma Rachel yn dweud wrth ei thad, “Maddau i mi, dad, am beidio codi i ti. Mae hi'r amser yna o'r mis arna i.” Felly er iddo chwilio ym mhobman wnaeth e ddim dod o hyd i eilun-ddelwau'r teulu.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 31