Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 3:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Na,” meddai'r wraig wrth y neidr, “dŷn ni'n cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd.

3. Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, ‘Peidiwch bwyta ei ffrwyth hi a peidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.’”

4. Ond dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Na! Fyddwch chi ddim yn marw.

5. Mae Duw yn gwybod y byddwch chi'n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta. Byddwch chi'n gwybod am bopeth – da a drwg – fel Duw ei hun.”

6. Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i'w fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hi'n cymryd peth o'i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i'w gŵr, oedd gyda hi, a dyma fe'n bwyta hefyd.

7. Yn sydyn roedden nhw'n gweld popeth yn glir, ac yn sylweddoli eu bod nhw'n noeth. Felly dyma nhw'n rhwymo dail coeden ffigys wrth ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhw'u hunain.

8. Yna dyma nhw'n clywed sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn mynd trwy'r ardd pan oedd gwynt yn dechrau codi. A dyma'r dyn a'i wraig yn mynd i guddio o olwg yr ARGLWYDD Dduw, i ganol y coed yn yr ardd.

9. Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a gofyn iddo, “Ble rwyt ti?”

10. Atebodd y dyn, “Roeddwn i'n clywed dy sŵn di yn yr ardd, ac roedd arna i ofn am fy mod i'n noeth. Felly dyma fi'n cuddio.”

11. “Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod di'n noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddywedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?”

12. Ac meddai'r dyn, “Y wraig rwyt ti wedi ei rhoi i mi – hi roddodd y ffrwyth i mi, a dyma fi'n ei fwyta.”

13. Yna gofynnodd yr ARGLWYDD Dduw i'r wraig, “Be ti'n feddwl ti'n wneud?” A dyma'r wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.”

14. Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud wrth y neidr:“Melltith arnat ti am wneud hyn!Ti fydd yr unig anifail dof neu wyllt sydd wedi dy felltithio.Byddi'n llusgo o gwmpas ar dy folac yn llyfu'r llwch drwy dy fywyd.

15. Byddi di a'r wraig yn elynion.Bydd dy had di a'i had hi bob amser yn elynion.Bydd e'n sathru dy ben di,a byddi di'n taro ei sawdl e.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 3