Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 3:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall oedd yr ARGLWYDD Dduw wedi eu creu. A dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Ydy Duw wir wedi dweud, ‘Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd’?”

2. “Na,” meddai'r wraig wrth y neidr, “dŷn ni'n cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd.

3. Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, ‘Peidiwch bwyta ei ffrwyth hi a peidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.’”

4. Ond dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Na! Fyddwch chi ddim yn marw.

5. Mae Duw yn gwybod y byddwch chi'n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta. Byddwch chi'n gwybod am bopeth – da a drwg – fel Duw ei hun.”

6. Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i'w fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hi'n cymryd peth o'i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i'w gŵr, oedd gyda hi, a dyma fe'n bwyta hefyd.

7. Yn sydyn roedden nhw'n gweld popeth yn glir, ac yn sylweddoli eu bod nhw'n noeth. Felly dyma nhw'n rhwymo dail coeden ffigys wrth ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhw'u hunain.

8. Yna dyma nhw'n clywed sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn mynd trwy'r ardd pan oedd gwynt yn dechrau codi. A dyma'r dyn a'i wraig yn mynd i guddio o olwg yr ARGLWYDD Dduw, i ganol y coed yn yr ardd.

9. Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a gofyn iddo, “Ble rwyt ti?”

10. Atebodd y dyn, “Roeddwn i'n clywed dy sŵn di yn yr ardd, ac roedd arna i ofn am fy mod i'n noeth. Felly dyma fi'n cuddio.”

11. “Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod di'n noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddywedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 3